8.7.08

Jane Hutt yn ateb y llythyr agored am Goleg Ffed Cymraeg

Maen dda adrodd fod Jane Hutt, y Gweinidog Addysg, wedi ateb y llythyr agored gan yr academwyr ar fater Coleg Ffederal Cymraeg. Dyma oedd gan Sonia Davies (Swyddog Polisi Addysg Uwch), ar ran Jane Hutt, i ddweud mewn ymateb:

“Diolch am eich llythyr diweddar at y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn nodi eich safbwyntiau ar nodweddion Coleg Ffederal Cymraeg. Gofynnwyd i mi eich ateb.

Rwy'n nodi'ch awgrymiadau i gael cyfansoddiad annibynnol a strwythur statudol, ac yn nodi pa mor bwysig yn eich tyb chi yw cael Coleg Cymraeg ar sawl safle. Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi'r camau nesaf yn fuan tuag at gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru'n Un i sefydlu rhwydwaith Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae'r Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg eisoes wedi'i oruchwylio, gan gynnwys cynllun datblygu cenedlaethol cwbl weithredol, datblygiadau i gydweithredu â sefydliadau addysg bellach, Cymrodoriaethau ac Ysgoloriaethau Addysgu, y rhaglen gynefino i staff academaidd cyfrwng Cymraeg newydd a gwefan newydd Mantais.

Yn fuan, bydd Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg yn cynnal cynhadledd ymgynghori gyda'i randdeiliaid fel rhan o'i adolygiad o gynnydd a chlustnodi'i gyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Hefyd bydd canlyniadau'r gynhadledd hon yn helpu i lywio'n gwaith yn y dyfodol yn y maes hollbwysig hwn i Gymru”


Maen newyddion da clywed felly y bo'r addewid o Goleg Ffederal Cymraeg llawn yn parhau yn fyw ar yr agenda ar hyn o bryd ac fod y llywodraeth yn parhau i weld y modelau rhwydwaith presennol fel camau yn unig tuag at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg llawn ac nid fel yr ateb terfynol. Fodd bynnag dwi'n sicr o'r farn y bod angen parhau i bwyso er mwyn gwneud yn siŵr fod sefydliad statudol annibynnol a chanddo lif arian annibynnol i ddatblygu addysg Cymraeg yn cael ei sefydlu.

Mae ateb Sonia Davies, ar ran Jane Hutt, yn cynnig dau gyfle posib i ni ddwyn perswâd pellach:

(i.) fe grybwylla Sonia am “Grŵp Llywio'r Coleg Ffederal Cymraeg” yn ei hymateb. Mae angen i ni ddarganfod beth a phwy yn union yw'r grŵp yma ac wedi darganfod hynny bydd rhaid achub ar bob cyfle i ddwyn perswâd trwy ohebu a chyfarfod wyneb yn wyneb a'r aelodau. Maen aneglur ar hyn o bryd os mae grŵp ad-hoc yn cynnwys ymgynghorwyr gwleidyddol y Llywodraeth ydy'r grŵp yma neu grŵp cyhoeddus yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r SAU. Un peth sy'n sicr yw na ddylem adael i Addysg Uwch Cymru gael monopoli o ddylanwad ar y grŵp yma a thrwy hynny lesteirio unrhyw ddatblygiadau sylweddol.

(ii.) fe grybwylla Sonia hefyd am gynhadledd arfaethedig i randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg arfaethedig. Bydd rhaid pwyso am fwy o fanylion am y gynhadledd yma er mwyn gwneud yn siŵr fod digon o gynrychiolaeth o dŷ cefnogwyr y Coleg Ffederal Cymraeg yn bresennol i gyflwyno'r achos oherwydd maen bur debyg y bydd gelynion y polisi yn gwneud pob defnydd posib o'r gynhadledd hon i ladd yr ewyllys gwleidyddol o bosib am genhedlaeth arall. Maen bwysig i ni ddadlau hefyd bod angen i'r diffiniad o “randdeiliaid y Coleg Ffederal Cymraeg” fod mor eang a phosib fel bod cynrychiolaeth deg gan fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, staff dysgu cyfrwng Cymraeg rheng flaen yn ogystal a chynrychiolwyr o'r gymdeithas sifig yng Nghymru yn gyffredinol yn cael eu cyfri fel “rhanddeiliad” ac nid penaethiaid y SAU presennol yn unig.

Mae'r pwysau i barhau!

No comments: