10.4.08

Jedi Church Caergybi

Fy hoff gyfres ffilmiau i heb os yw cyfres Star Wars, mae nhw'n glasuron ac mewn ffordd dwi ddim yn synnu bod y peth wedi mynd yn obsesiwn gyda rhai pobl i'r graddau eu bod nhw yn awr yn dilyn y grefydd Jedi a hyd yn oed wedi sefydlu eglwys Jedi a hynny yng Nghaergybi! Dwi wedi bod yn meddwl ysgrifennu am y ffenomenon yma ers tro ac yr wythnos yma ces i fy ngwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen amdanynt (sydd wedi ei chanslo bellach gyda llaw oherwydd na lwyddodd cynhyrchwyr y rhaglen i gael unrhyw footage difyr a defnyddadwy o'r Jedi Knights eu hunain!) felly dyna'r symbyliad i ysgrifennu ar y pwnc o'r diwedd.

Ar yr olwg gyntaf does dim o'i le ar y ffenomenon ac i ddweud y gwir mae'r ffenomenon ond yn tanlinelli rhai o'r gwirioneddau mae'r Cristion yn ei gredu. I ddechrau, mae'r ymgais yma gan y Jedi's ac ysbrydolwyr tebyg yn dangos fod yna gynneddf naturiol ym mhawb i chwilio am rhywbeth dyfnach a phwrpas a rheswm tu hwnt i'r byd gwyddonol. Yn ail, meddai'r Jedi Church: 'There are 2 sides to the force, the dark side and the light side,' mewn termau Cristnogol gellid deall y gosodiad yna fel ein bod ni gyd wedi ein llunio ar lun a delw Duw ond ar y llaw arall y bod staen pechod a'r byd syrthiedig ynom ni gyd hefyd.

Maen debyg mae thesis y rhaglen ddogfen na fu oedd holi'r cwestiwn a yw Jedi wirioneddol yn grefydd? Dwi ddim yn sicr, ond rwy'n tybied y byddai cynhyrchwyr y rhaglen yn disgwyl i mi ddadlau fel Cristion nad oedd y lol Jedi yma yn wir grefydd – serch hynny i'r gwrthwyneb yr oeddwn ni yn bwriadu dadlau. Y diffiniad gorau o beth yw crefydd yr ydw i wedi ei glywed yw 'ymgais dyn i gyrraedd duw,' ac yn hynny o beth crefydd yw Jedi gan eu bod nhw yn ceisio cyraedd undod gyda'r 'one all powerful force [duw?] that binds the entire universe together.' Mewn cyferbyniad gyda crefydd mae Cristnogaeth yn dysgu mae Duw sy'n estyn ac achub y byd colledig ac yn ein gwahodd i gyfrannogi yn hytrach na bod dyn yn ceisio am dduw.

O ran rhai sylwadau eraill, o edrych ar yr ystadegau ar wefan y Jedi Church mae dau beth yn aros allan sef fod y trwch helaeth o ddilynwyr Jedi yn fechgyn ac fod y trwch helaeth o'r dilynwyr yn bobl yn eu harddegau neu yn fyfyrwyr; mewn gair nid yw'r Jedi Church yn adlewyrchiad o'r gymdeithas yn gyfan. Ar y cyfan mae'r Eglwys Gristnogol yn gynrychioliadol o'r gymdeithas ehangach, oce mae yna ganran annaturiol o uchel o bobl hŷn a phobl o gefndir dosbarth canol yn y capeli traddodiadol Cymraeg ond mae hyn yn cael ei offsetio gan yr eglwysi newydd mwy Pentecostalaidd sy'n denu tyrfaoedd o bobl ifanc a phobl o bob cefndir cymdeithasol. Fel sylw terfynol maen ddifyr codi'r cwestiwn beth mae mae crefydd yn rhoi yn ôl i'r gymdeithas yn gyffredinol? Roedd y stori ddiweddar yma gan y BBC yn dangos yn glir y budd ehangach mae cymunedau ffydd (98% yn Gristnogol) yn dod i Gymru. Ac 'dy ni gyd yn gwybod am sawl eglwys sy'n weithgar gyda mudiadau fel Tearfund a Chymorth Cristnogol. Efallai mod i'n siarad ar fy nghyfer ond o bori dros wefannau'r Eglwysi Jedi wela i ddim son am unrhyw gyfraniad yn ôl i gymdeithas drwy elusennau ayyb...

Mewn oes sydd ar un llaw yn gweld seciwlareiddio sydyn ac yr y naill law yn parhau i weld pobl, fel y Jedi's, yn chwilio am rhywbeth maen bwysicach nag erioed i Gristnogion barhau i sôn am yr un a ddywedodd amdano ef ei hun 'myfi yw'r ffordd y gwirionedd a'r bywyd,' Iesu Grist.

No comments: