Dylanwad llesol yr eglwys ar gymdeithas
Yn ddiweddar, yn Cristion ac hefyd ar fy mlog, rwyf wedi bod yn annog pobl i edrych tu hwnt i grefydd gyfundrefnol er mwyn ail-ddarganfod Cristnogaeth y Beibl ac ail ddarganfod Crist drostynt hwy eu hunain. Rwyf hyd yn oed wedi cyfeirio at ymadroddion beiddgar fel “Everyday people are leaving the Church and coming Back to God” yn ogystal â “Jesus – OK, Church – No Way!”. Rwyf wedi fy nghyhuddo o ddifrïo'r Eglwys lle mewn gwirionedd fy mwriad oedd herio a chwyldroi'r eglwys. Yn y blogiad yma felly fy mwriad yw tanlinellu o'r newydd beth yw'r eglwys a thanlinellu fod rhaid i ni ymroi i'n heglwysi mewn modd radical a graslon yr un pryd.
Maen ystrydebol bellach i gyfeirio a chymharu'r Eglwys a McDonalds - dydy mynd i'r Eglwys ddim yn eich gwneud chi'n Gristion mwy nag y gwnaiff mynd i McDonalds yn eich gwneud chi'n hamburger! Er, fel Protestant da, na gredaf fod yr Eglwys yn gyfrwng i selio iachawdwriaeth rwyf yn argyhoeddedig fod yr Eglwys ac athrawiaeth yr eglwys o bwys canolog i'r Cristion.
Mae'r Beibl yn cyfeirio at yr Eglwys fel Priodferch Crist. Meddai Paul yn Effesiaid 5:25-27:
“Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti, i'w sancteiddio a'i glanhau â'r golchiad dŵr a'r gair, er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo'i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o'r fath, iddi fod yn sanctaidd a di-fai.”

“God invented romance and pursuit and the promise of undying love between a man and a woman so that throughout our lives we could catch a faint glimmer of the intense love Christ has for those He died to save. What passion He has for His Church! Even if you've never studied the Bible, you've heard echoes of this amazing love throughout your life. Every true love story has hinted at it. Every groom weakened at the sight of his radiant bride has whispered of it. Every faithful, committed, and loving marriage has pointed to it. Each is an imperfect echo of the perfect song of heaven.”
Dyna felly'r olwg hir dymor o bwysigrwydd yr eglwys – yr eglwys yw cymar Crist ei hun. Ond beth am bwysigrwydd fwy ymarferol dydd i ddydd yr Eglwys? Rwyf wedi cyfeirio eisoes at y ffaith nad ydy bod yn aelod o Eglwys yn eich gwneud chi'n Gristion, wedi dweud hynny rwy'n credu ei bod hi'n anodd os nad amhosib byw fel Cristion heb fod yn rhan o Eglwys. Mae dyletswydd ar Gristnogion i fod yn oleuni a halen yn y gymdeithas a'r ffordd orau i ddangos y goleuni a taenu'r halen hwnnw yw fel cymuned wedi dod at ein gilydd. Mae'r gymdeithas ehangach yn fwy tebygol o gymryd sylw o gymuned Gristnogol nag ydyw o Gristnogion unigol wedi eu gwasgaru dros dref, dinas neu ardal helaeth. Drwy gael cymuned o gredinwyr yn cyd-fyw yr efengyl a'r bywyd newydd gall y gymuned yn ehangach weld yr efengyl ar-waith yn arbennig felly pan fo cyfyngderau fel salwch a phrofedigaethau yn dod i'n rhan.

No comments:
Post a Comment