Iesu! Aled Jones Williams
Mae'r theatr a'r ddrama yn gyfryngau pwerus tu hwnt ac o safbwynt Cristion a Christnogaeth mae'r theatr yn sicr a photensial i gyflwyno pobl o'r newydd i Iesu Grist y Gwaredwr. Fodd bynnag trist oedd gweld fod Aled Jones Williams, ac yntau wrth gwrs yn Ficer yn yr Eglwys yng Nghymru, yn defnyddio'r theatr i ymosod ar ein Gwaredwr yn hytrach na'i gyflwyno o'r newydd i genedl sydd wirioneddol angen clywed a deall y newyddion da. Yn y ddrama roedd Iesu, wrth gwrs, yn cael ei actio gan Ferch – nid oedd hynny yn fy nghynhyrfu rhyw lawer ond yn hytrach yr hyn wnaeth fy nigalonni rhyw damaid oedd fod Aled yn portreadu Iesu fel Duw llipa a phathetig. Mi oedd Iesu Grist, wrth gwrs, yn ostyngedig ond mae bod yn ostyngedig yn dra wahanol i fod yn llipa. Er enghraifft cymerwch Ghandi, roedd yn ŵr hynaws a gostyngedig ond doedd hynny ddim gyfystyr a bod yn llipa a phathetig. Cymaint mwy felly oedd yr Iesu, oedd mi oedd yn ostyngedig ond roedd yn ŵr a Duw cadarn a wnaeth y safiad mwyaf yn hanes. Mae drama Aled yn methu'n llwyr a phwyntio allan y gwahaniaeth yma rhwng gostyngeiddrwydd a lliprwydd a thrwy fethu a phwyntio allan y gwahaniaeth yma mae Aled yn ymosod yn ffiaidd ar gymeriad Iesu fy ngwaredwr a'm Duw.
Mae Aled wedi cwyno o'r blaen bod dim cymeriad gan Iesu'r Beibl ac oherwydd hynny Iesu yw cymeriad gwanaf ei ddrama. Wrth gwrs mewn drama pechod a pechodau'r cymeriadau sy'n creu'r cymeriadau, creu'r cyffro a chreu'r tensiynau; felly i Aled fel dramodydd mae delio a phortreadu cymeriad di-bechod fel Iesu yn siŵr o beri problemau sylweddol. Yn hynny o beth efallai mae'r peth gorau i Aled fyddai wedi canoli'r ddrama yn llwyr ar yr ymryson rhwng Caiaffas a Pontiws Peilat – wedi'r cyfan cefndirol oedd cymeriad Iesu ei hun yn y ddrama. Ond roedd rhaid i Aled fachu ar bob cyfle i ymosod a'r Gristnogaeth glasurol felly pa ffordd well na hynny o ddifrïo y gwaredwr ei hun pobl cyfle cai?
O roi ystyriaethau diwinyddol a'r 'hw ha' dadleuol i'r neilltu ac edrych ar y ddrama yn gwbl wrthrychol rwy'n parhau i gredu fod y ddrama yn un wan ac iddi sgript eclectig flêr. Rodd diffyg cynildeb difrifol gan Aled yn y sgript ac roedd y diffyg cynildeb yma yn golygu fod y dramodydd yn gwthio ei hun ar y llwyfan ac yn pregethu ei ragfarnau at y gynulleidfa yn hytrach na defnyddio'r sgript a'r ddrama i wneud hynny mewn ffordd gywrain a chynnil. Roedd llawer o regi yn y ddrama ac fe nododd cyfaill i mi, nad sy'n arddel Cristnogaeth gyda llaw, mae arwydd o sgript wan a rhwystredigaeth o dŷ'r dramodydd ydy gorfod troi at regi cymaint. Dwi ddim yn erbyn y defnydd o reg mewn llên, i ddweud y gwir dwi'n meddwl fod defnydd cynnil o reg mewn llen yn effeithiol dros ben i bortreadu'r gynnen a phechod sydd ynom ni gyd. Ond doedd dim cynildeb o gwbl yn nefnydd Aled o'r rheg ac oherwydd hynny roedd y defnydd o reg yn ddim byd mwy na dangos bod Aled yn Ficer rhwystredig sydd wedi a methu mynegi ei hun ac oherwydd hynny yn gorfod troi at reg yn yr un ffordd ag y mae plentyn bach yn gwaeddi a strancian pan nad yw'n cael ei ffordd ei hun.
Gan gofio mae gweinidog yr efengyl oedd awdur y ddrama rhaid holi'r cwestiwn a'i diben yr Eglwys a'i haelodau ydy cyhoeddi'r newyddion da am Deyrnas Crist yntau holi cwestiynau a dymchwel ei sylfaeni? Mae yna ddigon o bobl allan yna sy'n ymosod a'r Grist a'i waith ac mae'n drueni fod Gweinidog yr Efengyl o Borthmadog wedi cymryd ochr a hwy. Ond dydw i ddim yn gofidio rhyw lawer oblegid ganrifoedd yn ddiweddarach rydym ni'n parhau i werthfawrogi gweithiau llenyddol mawr Cristnogaeth glasurol y Piwritaniaid a'r Methodistiaid ond dwi'n amau a fydd unrhyw un wedi dim ond pum mlynedd yn parhau i gofio heb sôn am berfformio Iesu! gan Aled Jones Williams.
Maen debyg fod Aled Jones Williams bellach yn ferthyr ond does neb cweit yn siŵr dros be y'i merthyrwyd. Yr unig ateb hyd y gwela i i Aled, yn eironig ddigon, ydy troi at y gwaredwr y mae wedi dyrnu ei rwystredigaeth yn ei erbyn yn y ddrama hon. 'Dewch ataf i bawb sy'n flinderog a llwythog' meddai Iesu ac ar ôl gwylio Iesu! rwy'n amau fod Aled, yn fwy na neb, yn hen Ficer sydd angen troi at yr Iesu yn hytrach na'i ddifrïo pob cyfle posib.
7 comments:
"Ouch!" ys dywed y sais.
Dw i heb weld y ddrama ond man medru bod yn beryglus gwneud datganiadau am gymeriad yr awdur ar sail ei waith.
Efallai yn yr achos yma bod yr awdur yn teimlo bod agen cyfogi rywfaint o'r amheuon pechadurus sydd o'i fewn ar ffurf drama er mwyn ceisio trafodaeth cyhoeddus o'r amheuon hynny. Yn enwedig os yw'n teimlo nad yw Cristnogion eraill yn barod i'w trafod ac yn mygu'r ddadl.
Dw i ddim yn dweud hyn er mwyn 'stirrian', ond wela i ddim sut bo ceisio trafodaeth helaeth ar Gristnogaeth yn beth drwg yn ei hun. Falle bod y ddrama yn cynnwys elfennau gwrth-Gristnogol ond dyna'r byd ydan ni'n byw ynddi a mae rhain yn syniadau mae'n rhaid i Gristnogion fod yn barod eu trafod yn agored.
Dw i'n amau bod y dorf diwylliedig a welodd Iesu! yn mynd i newid eu cenfyddiad o Iesu fel y mae'n cael ei bortreadu yn y Beibl ar sail y ddrama. A dweud y gwir mae castio merch fel Iesu i weld yn ddyfais er mwyn osgoi hynny?
"Dw i heb weld y ddrama ond man medru bod yn beryglus gwneud datganiadau am gymeriad yr awdur ar sail ei waith."
Ti'n iawn, ond mae Aled yn wahanol. Maen agored iawn am dano ef ei hun ac fel rhywun sydd wedi bod mewn "disgwrs" ag ef o'r blaen dwi'n meddwl mod i'n deall rhywfaint o sut mae Aled yn dod at ei syniadau crefyddol er nad ydw i, wrth reswm, yn cytuno ag ef.
Llongyfarchiadau i ti gyda llaw!
Hmm, dwy heb weld y ddrama, ond wedi darllen y sgript. Yr hyn sy'n fy nharo i yw bod gan yr awdur man cychwyn penodol, safle sydd a'i wreiddiau ym Mhrotestaniaeth ryddfrydol (Harnack etc.), ond nid yw ef wedi cyfiawnhau dilysrwydd y man cychwyn yma. Credaf hefyd bod y ddrama yn dweud mwy am yr awdur nac am Iesu.
"Sometimes you have to stand back to admire a work of art" a dyna, os ti'n gristion sy angan i neud efo'r ddrama 'ma dwi'n meddwl. Sbio ar y darlun mwy cyflawn sy'n rhybuddio sut ma'r bobl sy mewn pwer yn gallu'i gamddefnyddio fo er mwyn gormesu pobl yn hytrach na meddwl bod o'n bychanu Iesu.
Be ma Aled ydi defnyddio'r stori sy wedi denu miliyna o bobl i roi eu bywyda i ddilyn Iesu ar ol clywed am ddigwyddiada nad oes gynnyn nhw brawf pendant iddyn nhw erioed ddigwydd er mwyn dangos sut y galla'r stori honno fod yn llygredig ac wedi'i phlygu a'i stumio i siwtio rhai pobl.
Ar y wal yn y cefn yn y ddrama, ma na fideo o gysgod Donald Rumsfeld a mae o'n deud "there are known knowns; there are things we know we know. We also know there are known unknowns; that is to say we know there are some things we do not know. But there are also unknown unknowns - the ones we don't know we don't know" a dyna ydi gwers y ddrama - bod y gwir ddim wastad yn cal i ddeud wrthan ni a bod na bobl mewn llywodraetha etc ar draws y byd sy'n deud celwydd er mwyn dal gafal mewn grym ac er eu budd eu hunan fel sy'n digwydd yn y ddrama.
Diolch am hynny Elis, rwyt ti'n iawn, dyna yw prif neges Aled ond byrdwn y ffordd ro ni'n edrych ar y ddrama oedd ei fod wedi ei sgwennu gan Weinidog yr Efengyl. Os ydy Aled yn hapusach i daflu spaneri mewn a gwneud ddim byd mwy na herio a phryfocio yna fe ddyliai adael y weinidogaeth.
A'i gogoneddu Crist y gwaredwr yntau ymosod arno mae'r ddrama? Ymosod yw'r ateb heb os ac yn hynny o beth mae Aled yn dwyn gwarth ar ei broffesiwn a'r eglwys... dydy hynny wrth gwrs ddim yn golygu ei fod yn ddramodydd gwael o'r rheidrwydd. Jest dweud ydw i ei bod hi'n hen bryd i Aled ddewis ei ochr - pam ddyliai Eglwys Crist dalu cyflog dyn sy'n derbyn cyflog o rywle arall i sgwennu dramau sy'n difrio Crist?
Ond nid yr Iesu go iawn sy'n cal ei bortreadu yn y ddrama, ond yn hytrach rywun sy'n cal ei heipio fyny a'i newid i fod yn Iesu. Felly os nad yr Iesu go iawn a bortreadir, nid yr Iesu go iawn sy'n cal ei ddi-frïo. Ond bosib iawn mod i'n gorsymleiddio petha rwan.
Ac mi fedra i ddallt bod ficar sy'n sgwennu drama sy'n awgrymu conspiracy theory fel'na yn mynd i gythruddo rhai pobl.
Ond oherwydd yr holl hype ma sy wedi'i greu ynghylch y ddrama (gan y bobl sy'n ei herbyn hi yn benna', mae o wedi codi rhyw awydd arna i i glywad Aled yn pregethu rywdro. Ac os ydi rhywun arall sydd wedi gweld y ddrama neu wedi clywed yr hype yn mynd i deimlo'r un fath â fi, mi alla fo agor y drws i rai pobl i ddod i adnabod y Crist go iawn, sydd yn beth gwych. Dim ond petae Aled yn pregethu'r hyn mae'i ddrama o'n ddeud y bydda petha'n mynd yn beryg.
"Dim ond petae Aled yn pregethu'r hyn mae'i ddrama o'n ddeud y bydda petha'n mynd yn beryg."
Yn hollol, ond dydy pethau ddim yn argoeli'n dda nachdyn? Dwi'n cofio pan wnaetho ni raglen radio efo Aled dros flwyddyn yn ôl fe ddefnyddiodd o'r union frawddeg yma, nid mewn drama ond iddo fo ei hun mewn bywyd go-iawn: "Dydy Iesu ddim yn waredwr i mi."
I Ficer sy'n medru deud y fath beth yn agored a chyhoeddus ar y radio dwi ddim yn rhy obeithiol y bod plwyfolion Porthmadog yn cael clywed y 'newyddion da' yn aml.
Post a Comment