Wncwl John Llanymawddwy
Heddiw yn Ninas Mawddwy roedd crebrwng dyn arbennig iawn - Wncwl John gynt o fferm Bryn Ucha, Llanymawddwy. Hen gyfaill i'n Nhadcu a'm Mamgu oedd John a'i Wraig Mari - mi fyddai ein teulu ni gyd, pob cangen o deulu mam, yn arfer mynd i aros ar y fferm wythnos olaf Awst yn ddi-ffael. Tan i John a Mari ymddeol i'r Bala rhyw ddeng mlynedd yn ol fe fuodd Mam yn aros ar y fferm bob haf ers ei geni. Roedd apel y fferm i ni fel plant o'r dre yn anhygoel, ro' ni'n disgwyl mlaen yn eiddgar gydol y flwyddyn i gael mynd i Lanymawddwy. Erbyn y blynyddoedd ola ro' ni'n ddigon hen i helpu Wncwl John ac ro' ni'n cael mynd da fe lan y mynyddoedd yn y Defender 90 - dwi dal i gofio llythrennau olaf y registration: "WFF". Wrth edrych yn ol heddiw maen debyg mae mwy o ffwdan nag o help oeddw ni i Wncwl John!
Dod i adnabod eu gilydd trwy waith y Mudiad Efengylaidd ymhell yn ol yn y 1950au gwnaeth John a Nhadcu. Roedd John yn Gristion o argyhoeddiad ac wedi profi gras a chariad achubol Iesu Grist mewn ffordd arbennig a real iawn - roedd hyn yn amlwg i bawb a ddeuai ar draws John a Mari. Yr hyn oedd yn wych am John oedd ei ffydd syml ond ergydiol o real yn Iesu Grist - doedd dim byd uchel ael yn perthyn i'w efengyliaeth. Roedd e'n efengylwr oherwydd ei fod yn credu ac wedi profi'r efengyl - y newyddion da!
Methais i a mynd draw i'r crebrwng heddiw ond rwy'n siwr y bu llawer son am fod Wncwl John, gynt o fferm Bryn Ucha, bellach ar y bryn uwch fyth ac yn y nefoedd gyda'i Waredwr. Diolch iddo.
No comments:
Post a Comment