Showing posts with label Paul. Show all posts
Showing posts with label Paul. Show all posts

15.7.08

Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser

Pan fo pethau yn tueddu i fynd yn anghywir neu beidio gweithio allan fel yr oedde chi wedi ei weithio allan yn eich pen mae yna duedd yndom ni gyd i droi a beio Duw. Ond dwi wedi fy atgoffa o'r newydd heddiw fod y gwrthwyneb yn wir sef mai at Dduw y dyliem droi am gadernid a chysur yn hytrach na rhywun i'w feio. Yn llythyr Paul at y Philipiaid dawn eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a'n paratoi ar gyfer y daith olaf.

Dyma rai enghreifftiau, does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw - maen broblem sy'n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg, neu yn fy achos i a llawer o bobl ifanc: facebook/maes-e/blogs/twitter! Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad (1:1-11) mae hyder a gobaith Paul yn rhyfeddol a hynny yn wyneb yr unigrwydd difrifol yr oedd yn ei wynebu mewn cell. Ymhellach yn y bennod gyntaf mae Paul yn dangos sut mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb dioddefaint (1:12-18) a hyd yn oed marwolaeth (1:19-30).

Ymlaen yn y drydedd bennod gwelwn groes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb tensiynau a chynnen (3:1-11) a'r blinder (3:12-4:1) sy'n ein goddiweddid ni gyd o bryd i'w gilydd. Maen debyg mae'r cyflwr meddyliol sy'n llorio'r mwyaf o bobl heddiw yw pryder (anxiety) ac yn achos llawer o bobl mae'r cyflwr môr ddifrifol fel ag y maen rhaid cymryd cyngor doctor a da o beth fod y cyngor hwnnw ar gael. Ond fe all y Meddyg Da yn ogystal a'r GP ein cynnal a'n cynorthwyo pan yn wynebu pryder difrifol oherwydd fel y dywed Paul: 'Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch' (3:4-6). Yn olaf mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth i ni yn wyneb tlodi (4:10-23).

Fe ddywedodd John Lennon:

Imagine there's no Heaven
It's easy if you try
No hell below us
Above us only sky
Imagine all the people
Living for today


Wel, maen gysur gwbod fod Cristnogaeth yn gysur ac yn gymorth i ni sy'n "living for today" hefyd. Oes mae gan Iesu yr ateb i bechod ond mae ganddo atebion hefyd i broblemau ymarferol bywyd nid dim ond y cosmig. Diolch iddo.

16.6.08

Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church

Fel y soniais ar y blog ddiwedd wythnos diwethaf fe wnes i fynychu Cynulliad Oedolion Ifanc yr Annibynwyr dros y penwythnos lle roeddw ni'n siarad ar y testun Tystiolaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church. Dyma grynodeb o'r neges, ar waelod y postiad mae dolen i chi islwytho'r anerchiad yn llawn fel PDF.

Gellid dadlau gyda chryn argyhoeddiad fod dylanwad Cristnogaeth ar Gymru wedi bod cyn gryfed os nad yn fwy, dyweder, na dylanwad Marcsiaeth a'r Rwsia. Mae gan Gymru, yn ddi os, hanes gyfoethog o fod yn genedl sydd wedi ei chyffwrdd a'i ddylanwadu gan Gristnogaeth ond gadewch i ni edrych ar y sefyllfa heddiw. Fe ddywedodd 71% (sef dros ddwy filiwn o bobl) ohonom ni ein bod ni'n Gristnogion yn y cyfrifiad diwethaf. Ar bapur felly mae'r Cymry yn Gristnogion ac mae Cymru'n wlad Gristnogol o hyd. Ond fe ddywedodd y cymdeithasegydd Paul Chambers yn ei lyfr Religion, Secularization and Social Chance in Wales (2005) fod crefydd, er gwaetha'r ffaith fod dros 70% o Gymry yn adnabod eu hunain fel Cristnogion, yn farw yng Nghymru: 'Religion in Wales,' meddai Chambers, 'if not entirely dead, is seen as terminally sick, subject to the secularizing influences common throughout Europe.' Mewn ymateb i eiriau sobreiddiol Paul Chambers fan yma yn ogystal a defnydd digon elfennol o'n synhwyrau a'n synnwyr cyffredin ni ellid derbyn, yn ddi gwestiwn o leiaf, ganlyniadau cyfrifiad 2001 a honnodd fod Cymru yn parhau i fod yn wlad fwyafrifol Gristnogol.

Pan gyhoeddwyd Yr Her i Newid yn 1995 dim ond 8.7% o Gymry oedd yn mynychu unrhyw fath o eglwys a ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae'r ffigwr wedi syrthio i 6.4%. Sut felly mae ymateb i'r her? Tri ymateb posib:

Ymateb 1: Negyddiaeth a gwrthod newid
Efengyl+Eglwys-Diwylliant = Ffwndamentaliaeth

Ymateb 2: Colli'r ffocws
Eglwys+Diwylliant-Efengyl = Rhyddfrydiaeth

Ymateb 3: Diwygiadol, neu yn Saesneg Reformitionnal
Efengyl+Eglwys+Diwlliant=Diwygiadol

Mae ffaeleddau amlwg yn y ddau ymateb cyntaf ac felly ein dyletswydd ni yw darganfod, arddel a gweithredu ffydd Gristnogiol sydd wedi deall yr Efengyl yn llawn, yn deall beth yw'r eglwys a'i rôl ond hefyd bod yn eglwys sy'n berthnasol yn ddiwylliannol.

Casgliadau

1. Mae'r Eglwys wedi methu a dilyn esiampl Paul ac yn fwy pwysig Iesu, rhaid i ni fel cenhedlaeth beidio efelychu'r genhedlaeth ddiwethaf.

2. Pwysig cofio mae addasu'r cyfrwng ydym ni'n gwneud ac nid addasu'r neges.

3. Iesu sy'n rhoi dilysrwydd i'n math newydd o eglwys ac nid yr hen fath o eglwys.

Rhowch glec yma i ddarllen yr anerchiad yn llawn: Tystioilaethu'n Ddigidol a'r Emerging Church (PDF)

25.6.07

Fy Antur Ddelfrydol - teithio o Jerwsalem i Rufain

Mae wedi bod yn freuddwyd gennai ers tro i wneud un o deithiau Paul yr Apostol. Dwi ddim ar fin gwneud, nid yw amser nac arian yn caniatáu ar hyn o bryd; ond dyma nodi yn fras yr hyn baswn ni'n gobeithio ei gyflawni. Y man cychwyn fyddai Jerwsalem gan orffen y daith yn Rhufain. Cyfuno ei deithiau drwy Roeg gyda'i daith olaf i Rufain fyddai'n ddelfrydol. Yr unig ddefnydd o awyren y carwn wneud fyddai hedfan i Jerwsalem o'r DG ar y dechrau a hedfan adref i Gymru o Rufain ar y diwedd. Rhwng Jerwsalem a Rhufain fe fuaswn ni'n ceisio defnyddio trên, bws a bad yn unig – ddim cweit yn gamelod ond yn well na hedfan o un lle i'r llall!

Fodd bynnag ni fydd cyrraedd Jerwsalem yn hawdd oherwydd ers 2001 nid oes yna faes awyr yn Jerwsalem! Byddai rhaid hedfan i Tel Aviv, o Dachwedd 2007 mae Thomson yn rhedeg tair awyren bob wythnos yna o Lundain am £79.99. Beth am deithio o Tel Aviv i Jerwsalem ar drên wedyn? Dim gobaith cyn 2012, dyna pryd fydd y linell o Tel Aviv i Jerwsalem yn agor! Mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod am fy ffobia o fysys... o diar.

O wel, dwi'n benderfynol o wneud y daith o Jerwsalem i Rufain rhywbryd ac ar ôl potsian ar y wê am ychydig funudau maen reit amlwg y bydd trefnu y daith, pan ddaw'r amser, yn debygol o fod yn dipyn o her a phen tost.