29.3.05

Janet yn camfihafio a'r Wiki Cymraeg

Pwy yw Janet medde chi? Na, nid fy anifail anwes ond yn hytrach enw prif gyfrifiadur y Brifysgol. Oddi ar Janet dwi'n rhedeg fy holl wefannau (Y Gorlan, Naws, Kenavo) a hefyd dyna ble mae'r holl luniau hardd sydd yn ymddangos ar fy mlog yn cael eu storio. Ond ble mae'r lluniau hardd heddiw medde chi eto? Wel am ryw reswm ma Janet wedi mynd i gysgu felly mae'r holl wefannau gan gynnwys lluniau pert y blog yma wedi crashio yn anffodus! A does neb i fewn yn y Brifysgol i'w drwsio tan ddydd Mercher debyg... o wel.

Ddoe fe'm cyflwynwyd i'r Wikipedia Cymraeg gan Nic Dafis , brenin y we Gymraeg. Mi o ni eisioes wedi cyfrannu tipyn i'r Wikipedia Saesneg (R. Tudur Jones, Bobi Jones, Geraint Gruffydd, Cymdeithas yr Iaith, CYD, Gareth Davies, Diwygiad 1904-1905, Martyn Lloyd-Jones, Mudiad Efengylaidd Cymru) ond nawr rwyf wedi dechrau cyfieithu y stwff dwi di neud i'r Wiki Saesneg er mwyn eu cyhoeddi ar y Wiki Cymraeg. Heddiw cyhoeddais yr erthygl ar Ddiwigiad 1904-05 ar y Wiki Cymraeg.

Dwi di dechrau meddwl am fy nhraethodau heddiw hefyd - fy nhraethawd cyntaf ydy cymharu dau arweinydd gwleidyddol. Dwi di dewis Lloyd George a Saunders Lewis ac wedi dechrau ar y darllen!

2 comments:

Nic said...

brenin y we Gymraeg - mas o 'ma, mae'r we Gymraeg yn weriniaeth, chest ti mo'r memo? Cawson ni chwyldro a phopeth.

Sori os dw i'n dod ar draws yn llawdrwm weithiau. Dw i ddim am swnio fel athro ysgol sy'n checo bod pawb wedi wneud eu gwaith cartre. Mae'n wych o beth dy fod di'n sgwennu stwff am y Diwygiad yn Saesneg - prin iawn bod pobl di-Gymraeg yn gyfarwydd รข'i hanes. Dw i'n gwybod nad o'n i, nes i mi ddod i fyw yn y Fro.

Rhys Llwyd said...

Sori... arlywydd y We Gymraeg! Ceidwad y cyfansoddiad o bosib?

Ydy mae'n bwysig rhoi gwybod i'r byd am hanes cyfoethog ein gwlad ni OND ma hi'n bwysig hefyd datblygu y wiki Cymraeg - popeth fyddai'n cyfranu i wiki o nawr mlan fe geisia i neud e'n Gymraeg a Saesneg.

Neithiwr fe nesi ddatblygu'r adran Athroniaeth yn y Wiki Cymraeg.