1.4.05

Bedydd II

Dyma lun o'r rhai gafodd eu bedyddio neithiwr:



O'r chwith i'r dde: Fi, Garmon, Lois, Cynan (fy mrawd), Elain (fy chwaer) a Gwenno. Yn y cefn mae Ifan M. Davies ein gweinidog.

Dyma fy nhystiolaeth oedd yn llyfryn y noson...


"Roeddet ti’n gyfarwydd â’r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn, a thrwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub drwy gredu yn y Meseia Iesu." - 2 Timotheus 3:15


Mi fûm yn ffodus i gael magwraeth Gristnogol a'm dysgodd ers yn ifanc beth oedd yn iawn a beth oedd yn anghywir. Trwy flynyddoedd fy mhlentyndod dyna oedd fy ymwnelo i a Christnogaeth - pethau da a phethau drwg. Roedd rhyw grebwyll gennyf hefyd fod Cristnogaeth ein teulu ni yn wahanol i Gristnogaeth llawer o blant eraill oedd yn yr ysgol gyda mi. Cofiaf esbonio yn naïfrwydd fy mhlentyndod mae'r hyn oedd yn wahanol oedd ein bod ni'n hoff o bryd i'w gilydd o ail adrodd pennill olaf emynau!


Dyna sut y parhaodd pethau hyd fy arddegau pan y dechreuais fynychu gwersylloedd Cristnogol bob haf. Ni newidiodd lawer yn y ddwy flynedd gyntaf o fynychu'r gwersylloedd; fe'u mwynheais yn fawr, ond wedi mynd nôl tua thref doedd Cristnogaeth ddim yn fwy na mynychu capel. Ond yn fy nhrydydd gwersyll dechreuais feddwl am bethau o ddifri, yr hyn am trawodd oedd ffrind i mi yn dweud yn sicr nad oedd yn Gristion. Doeddwn ni heb wir ystyried y posibilrwydd nad oeddwn i'n Gristion tan y diwrnod hwnnw.


Wedi hynny deuthum i ystyried pethau a phwyso ar Dduw am sicrwydd. Ni allaf bennu diwrnod nac hyd yn oed wythnos, ond dros y flwyddyn a ddilynodd deuthum i sicrwydd fy mod angen Iesu a bod Iesu yna wedi fy mhrynu. Ond dydy'r stori ddim yn gorffen fan yna. Rwy'n gymeriad sy'n cwestiynu popeth; er bod gwersylloedd Cristnogol a chymdeithas Cyd-Gristnogion Efengylaidd yn sicr wedi bod yn gyfrwng i mi ddod i ddeall fod angen i Iesu ddod i'm mywyd - fe fagodd y gymdeithas yma yn y gwersylloedd Gristion diog ynof.


Euthum yn or-ddibynol ar gymdeithas Cyd-Gristnogion a'r fendith y teimla bachgen yn ei arddegau mewn gwersyll Cristnogol - heb edrych mewn i bethau a chwestiynu pethau drosof i fy hun. Erbyn y chweched dosbarth roeddwn yn ymwybodol o hyn ac ers hynny rwyf wedi cael bendith aruthrol yn edrych a darllen am Dduw fy hunan - ac yn wir dod i gasgliadau ychydig yn wahanol am y pethau eilradd i'r hyn y cymerais oedd yn gywir pan oeddwn i'n ifanc!


“Mae e’n haeddu ei anrhydeddu a’i foli! Fe ydy’r Brenin am byth! Fe ydy'r Duw anfarwol, anweledig! Fe ydy’r unig Dduw sydd! Amen!” - 1 Timotheus 1:17


Nid cyd-ddigwyddiad yw hi fy mod i wedi fy ngalw i fod yn Lywydd ar yr undeb Cristnogol yn y Coleg a hefyd fy mod innau Elain a Cynan yn cael ein bedyddio yn fuan wedi i Dad-cu fynd at ei Waredwr. Rhagluniaeth Duw ydyw yn sicr - mae cyfnod yn dod i ben yng Nghymru ond, mae Duw, diolch iddo, dal i achub Cymry fel y'm hachubodd innau a dal i alw pobl i gario'r dorch yng Nghymru – mae ei gariad atom yn anfesuradwy.

No comments: