12.4.05

Nol yn Coleg

Wedi i'r tair wythnos gyflymaf erioed wibio hebio dwi nol ym Mhantycelyn. Tair traethawd a chyflwyniad i'w gwneud yn yr wythnosau nesaf ac wedyn yr annwyl arholiadau!

Fuodd wythnos dwetha yn un reit brysur (dyna pam na chefais gyfle i adael neges ar y blog). Dechreuais weithio ar draethawd, fuesi mewn i weithio i'r BYD; ond yr hyn am diddanodd am ranfwyaf o'r wythnos oedd cael Broadband di-wifr adref! Buesi wrthi am dridiau yn ei osod fynny a thrio ei gael i weithio ar y cyfrifiaduron adref - fe lwyddais yn y diwedd!

Mae'r Etholiad ar y gorwel, tipyn o boen i feddwl fod gwaith coleg da fi neud. Buesi yn gwrando ar DI a STh yn traethu fore Sadwrn wedyn aethom ni lawr dre i ymgyrchu! Dwi'n meddwl wnaiff STh gadw ei sedd, er mae'n debyg neith y Dem Rhydd reit dda yma yng Ngheredigion.

Reit at y traethodau....

No comments: