6.7.05

Blog 'di deffro

Ble dwi arni dwedwch? Wedi cael ychydig o ddyddiau reit brysur ac felly heb gael cyfle i bostio blogiad ers tro. Fues i lawr i Gaerdydd dros y penwythnos, roedd Kenavo yn chwarae ym Mharti Ponty – aeth hi'n reit dda, nesi fwynhau OND hanner ffordd trwy'r set wnaeth yna fechgyn bach ddechrau taflu afalau atom ni!!! Gollesi'n limpyn yn anffodus.

Wedi dechrau postio ein CD newydd gyda'r datganiad i'r wasg heddiw, copïau wedi mynd bore ma i Radio Cymru ac eraill. Wrthi ddoe a heddiw yn dylunio'r arddangosfa ar gyfer uned Y BYD yn y steddfod – dwi'n hyderus y bydd yr uned tipyn deliach eleni!

Wyt ti wedi prynu dy docyn wythnos i gigs Cymdeithas yn 'steddfod eto? Clicia YMA os wyt ti am wneud.

No comments: