18.8.05

Mudiad Efengylaidd Cymru – dyfodol?!

Dwi'n mynd i gyfarfodydd Cynhadledd MEC gydol wythnos yma. Pregethu da iawn hyd yma, a canu emynau rhagorol yn uchel – beth well!

Wel beth well yn wir? Beth well fyddai gweld yr Eglwys (yn gyffredinol nawr ddim niferoedd sy'n mynychu cynadleddau o'r math yma o'r rheidrwydd) yn tyfu. Rhywbeth dy ni ddim wedi gweld yng Nghymru ers dros ganrif bellach.

Cafwyd llygedyn o obaith rhyw hanner canrif yn ôl pan sefydlwyd MEC. Rhyw fath o gorff wmbarella (heb fod yn enwad newydd hynny yw) i Gristnogion Calfinaidd ydoedd ond cyfud y sefyllfa erbyn y 60au pan adawodd llawer o bobl y Mudiad eu henwadau a sefydlu Eglwysi annibynnol Efengylaidd. Roedd hwn yn gam arwyddocaol, rhoddodd MEC ar groesffordd:

  1. Oedd MEC yn troi yn enwad ym mhopeth ond enw?
  2. Neu a oedd MEC i aros fel corff wmbarella i wasanaethu Cristnogion o bob enwad?

Wel, dwi'n meddwl gellid dweud fod MEC heddiw yn dipyn o'r ddau. Dydy e yn sicr ddim yn enwad – ond wedi i eglwysi Efengylaidd ledled Cymru gael eu sefydlu bu rhaid iddi yn anorfod wneud peth gwaith y byddai enwad traddodiadol yn gorfod neud. Ond llwyddodd MEC i barhau i wasanaethu Cristnogion o bob enwad e.e. Bu'n Nhadcu yn Gadeirydd ar MEC am flynyddoedd lawer OND roedd e'n Weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Heddiw mae MEC yn cynnal cynadleddau, Gwersylloedd haf i blant, cyhoeddi llyfrau ymysg pethau eraill.

Ysywaeth dyna gefndir byr i'r hyn dwi am drafod nesaf sef dyfodol MEC. Bore ma fuesi yng nghyfarfod Blynyddol MEC, roedd e'n gyfarfod emosiynol iawn. Mae MEC yn wynebu colledion ariannol mawr iawn ac mae'n rhaid i bethau newid. Yn ariannol mae'r garreg darodd yr enwadau flynyddoedd lawer yn ôl wedi taro MEC hefyd. Buodd rhaid i Gwyn Williams, Cadeirydd MEC, fynd at staff a cyhoeddi bod rhaid terfynu eu cytundebau – rhywbeth anodd iawn oedd yn amlwg wedi ysgwyd Gwyn. Mae mae siopau llyfrau MEC ledled Cymru yn wynebu cael eu cau hefyd.

Nawr beth mae hyn yn ei olygu te?

Wel, mae'r gwaith mae MEC yn gwneud yn bwysig, trwy wersylloedd MEC y des i i ddeall gwir Gristnogaeth a dod i adnabod fy Ngwaredwr. Ond er mor bwysig yw'r gwaith rhaid cydnabod dwi'n meddwl fod yr argyfwng ariannol yma sydd wedi taro MEC yn ran o rywbeth ehangach – rhywbeth sydd wedi effeithio yr enwadau ond mae nawr yn effeithio y byd Efengylaidd hefyd sef fod angen cyffyrddiad ysbrydol MAWR ar Gymru unwaith yn rhagor.

Mae pobl dal i gael eu hachub ydynt, a diolch i Dduw am hynny OND i fywiogi gwaith mudiadau fel MEC mae angen newid mawr yng Nghymru a dim ond drwy Ddiwygiad bydd modd ennill Cymru nol i Grist eto.

Serch hynny, law yn llaw wrth weddïo am yr ysbryd mae yna rai mesurau dwi'n meddwl y dylid eu cymryd i finiogi Eglwys Crist yng Nghymru.

  • Angen mwy o gynghreirio ymysg Cristnogion Uniongred (e.e. Rhwng y cyrff agored Efengylaidd OND hefyd rhwng MEC ac arweinwyr yr enwadau sy'n 'sownd' yn athrawiaethol – ma na ddigon ohonynt yna.) Rhaid i Efengylwyr beidio bod yn stwbwrn a gwrthod cyd-weithio gyda pobl sydd dal yn yr enwadau jyst allan o egwyddor. Os ydy bla bla bla yn credu run peth a chi, stim ots os yw e mewn enwad jyst cydweithiwch – undod yng Nghrist nishe!

  • Angen i Gymry Cymraeg sy'n aelodau neu yn ymwneud yn y sin Gristnogol Saesneg (gan gynnwys gweinidogion sy'n Gymry Cymraeg ond yn weinidogion ar eglwysi Saesneg) ddod at y sin Gymraeg. Mae mwy o angen gweithwyr yn y sin Gymraeg o lawer, mae yna elfen o ddiogrwydd drwy fod yn gyfforddus ac yn 'saff' mewn sin Gristnogol lewyrchus Saesneg – dewch nol i'r rheng flaen y wimps!

  • Angen i Gristnogion fod yng nghanol gwaith a diwylliant y genedl unwaith yn rhagor – fel bod dim modd anwybyddu pobl na neges Duw.

  • Angen arweinwyr newydd cryf ar Gristnogaeth yng Nghymru – pobol wrth reswm sydd ar dan dros Grist OND i fod yn arweinydd ar Gristnogaeth yng Nghymru mae angen iddynt fod wedi ei trwytho ar dreftadaeth Gristnogol Gymraeg. Dwi'n meddwl feiddia i ddweud y byddai arweinydd o Gristion sy'n genedlaetholwr Cymreig yn gwneud tipyn gwell arweinydd nag un sydd ddim. Roedd Paul yn caru ei bobl ei hun, a doedd dim o'i le ar hyn roedd yn fantais yn wir.

Gai nodi hefyd cyn gorffen fod 'araith' Hywel Meredydd yn y cyfarfod yn un wnaiff aros yn y cof am sbel - dweud llawer oedd angen cael ei ddweud ers tro am agwedd Efengylwyr at Gymru a'r Gymraeg.

Gwinllan a roddwyd i'm gofal....

1 comment:

Rhys Llwyd said...

Wel... rhaid gwahaniaethu rhwng eciwmeniaeth ac undod Gristnogol.

Tuedd anffodus eciwmeniaeth ydy fod pobl wedi cyfaddawdu ar faterion tra sylfaenol i'r ffydd Gristnogol.

Basw ni yn medru cyd-weithio/cyd-addoli yn ddi drafferth gyda Cristnogion sy'n cytuno ar hanfodion y ffydd (Cristnogaeth Hanesyddol Awstinaidd/Galfinaidd/Tudur Jonesaidd) ond efallai ddim yn cytuno ar bethau eilradd fel trefn eglwysig.

Ond basw ni methu cyd-weithio/cyd-addoli os byddai hynny yn golygu cyfaddawdu ar wirioneddau yr ysgrythur.

Yn Nghynhadledd MEC wythnos yma pregethodd Ifan Mason Davies (Eglwys Efengylaidd Aber), arweiniwyd gyfarfod gan Andrew Lenny (Annibynwyr Aber) ac fe arweiniwyd seminar gan Sion Meredydd (aelod o Eglwys Santes Fair Aber). Tri dyn sydd o gefndiroedd gwahanol OND yn cytuno ar y pethau pwysig.

Os yn cytuno ar y gyffes sylfaenol mae undod yn beth hardd iawn OND heb gytundeb mae'n beth peryglus tybiaf.