Welai di fory am 2
Bore fory – tua wyth y bore mi fydda i yn cychwyn lawr i Gaerdydd i rali Cymdeithas yr Iaith fydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
Dwi ddim mynd i flogio yn dadlau dros egwyddor Deddf Iaith nac ychwaith dros yr egwyddor o brotestio/ralio yn gyffredinol. Ma na ddigon am egwyddor Deddf Iaith ar wefan y Gymdeithas a ma na lyfrau di-ri allan yna am wleidyddiaeth protest.
Ond dwi am restru rhai rhesymau eraill pam y dyle chi fynychu y rali fory:
- I gymharu a be ma llawer o bobl wedi gwneud dros eu hawliau, Gandhi yn un enghraifft glasurol bellach, dydy mynd i rali am rhyw awr yn ddim byd. Yr unig gost bersonol ydy chydig o bres petrol a theimlo'r oerfel o bosib. Dydy hynny yn ddim byd.
- Mae Hywel Teifi Edwards yn siarad – areithiwr gorau Cymru heb os.
- Cyfle i glywed Mattoidz yn chwarae.
Dyma'r manylion:
Rali Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle
2pm – Dydd Sadwrn - Hydref 1af
Tu allan i'r hen swyddfa Gymreig, Parc Cathays
Siaradwyr:
Hywel Williams (AS),
Hywel Teifi Edwards,
Mererid Hopwood,
Steffan Cravos,
Catrin Dafydd
Welai chi yna!
No comments:
Post a Comment