9.11.05

Aderyn? Awyren? nage llyfr!

Ydych chi wedi clywed am yr ysgol ger Arizona sydd wedi taflu'r llyfrau trwy'r ffenest a rhoi Laptop i bob disgybl? Cred yr awdurdodau y bydd defnyddio gliniaduron yn “...get students more engaged in learning.” Mae llawer o gyhoeddwyr yn cynnig eu llyfrau a'i deunyddiau bellach ar ffurf electronig drwy PDF mewn ymateb i'r chwyldro dechnolegol. Yma yn Aberystwyth mae'r holl gyfnodolion mae llyfrgell y brifysgol wedi eu tanysgrifio iddynt hefyd ar gael i'r myfyrwyr fel PDF's (heblaw am rai sydd wedi eu cyhoeddi gan weisg Cymreig wrth gwrs :( )

Mae disgyblion ysgol 'Empire High School' yn rhoi gwaith cartref i mewn drwy e-bost ac wrth ei anfon mae'n mynd drwy feddalwedd sy'n ei sganio i wneud yn siŵr mae nid jest copïo a phastio oddi ar y we mae'r disgyblion wedi gwneud! Poen mae'n siŵr i'r myfyrwyr diog ond mae'r dechnoleg yn ateb pob beirniad.

A'i dyma fydd dyfodol y byd Addysg yng Nghymru tybed?

O.N. Ac ie cyfrifiaduron Apple mae nhw'n eu defnyddio.

No comments: