12.11.05

Wedi darganfod gwe-gam Dogfael!

Byth ers i mi a fy nghyfaill MC Peryg ddechrau darllen blog Dogfael roeddem ni yn benderfynol o ymddangos ar ei we gam! Roedd hyn mynd i fod yn dipyn o gamp oherwydd i ddechrau doedd dim syniad gyda ni ble roedd Dogfael yn byw. Yr unig lead oedd gyda ni oedd ei fod yn byw ger yr Hen Goleg ac ei fod yn byw gyda DML!

Heddiw dyma fi'n penderfynnu cerdded o gwmpas Maes Lowri a dwi'n meddwl i mi ddarganfod rhywle oedd yn edrych yn gyfarwydd! Ie, dyna chi, roedd y lle'n gyfarwydd oherwydd i mi ei weld ar we gam Dogfael! Ni lwyddais i wneud ymddangosiad ar y gwe-gam oherwydd roedd yna fur rhwng y ffordd a'r ffenest. Ond fe dynnais lun o'r safle fel tystiolaeth (neu ar y llaw arall i rywun sy'n adnabod dogfael i'm cywiro a dweud mod i filltiroedd i ffwrdd o'r lleoliad cywir.) Ta beth, ar yr ochr mae'r llun o'r gwe-gam ac hefyd y llun dynnais i gyda fy ffon o'r lleoliad!

Nawr mod i wedi (neu yn meddwl ein bod ni wedi) darganfod y lleoliad y cam nesaf bydd ymddangos ar y gwe-gam ei hun!

O.N. Ni wnaeth DML ein helpu i ddarganfod y ty.

No comments: