8.1.06

Dwi'n gaeth i gyffur


Dwi erioed wedi cymryd cyffur, heb sôn am fod yn gaeth i unrhyw un. Ond efallai fod hynny yn gelwydd, mae'n dibynnu sut ydych chi'n diffinio cyffur – ydy Alcohol yn gyffur? Ydy debyg, wedyn beth am wleidydda? Ydy debyg eto! Os felly yna mae gemau cyfrifiadur megis Championship Manager yn sicr yn gyffur! Ydw dwi wedi syrthio yn ôl yn gaeth i'r gem y gwyliau yma!

I lawer sydd wedi dod i fy adnabod ers blwyddyn 2001 efallai fod hyn yn eich synnu chi. Er mod i yn foi cyfrifiaduron dwi ddim y 'teip' gemau cyfrifiadur heb sôn am gemau cyfrifiadur pel-droed! Dwi ddim yn dilyn chwaraeon o un rhyw fath (er mod i, rhaid cyfaddef, yn gwylio rasio Fformiwla 1 o bryd i'w gilydd er mwyn gweld y damweiniau dramatig!) wedi dweud hynny byth ers 1995 pan oeddw ni'n 10 mlwydd oed dwi wedi bod yn gaeth i gem rheoli tîm pel droed o'r enw Championship Manager.

Erbyn y flwyddyn 2001 a finnau yn y chweched dosbarth gyda dyfodiad gweithgaredd Cymdeithas yr Iaith i'm mywyd a dechrau cyfansoddi mwy aml rhois orau ar y chwarae. Ond dydd Nadolig (ie, dydd Nadolig!) gwnes y camgymeriad o archebu'r fersiwn diweddaraf o'r gem o wefan Amazon – roedd yn fargen, copi ail-law am £4.99. Mae'n nhw'n £30 yn newydd. Cyrhaeddodd o fewn tridiau a bellach dwi wedi gorffen fy nhymor cyntaf. Mae tawelwch y blog yma dros yr ŵyl yn dyst mod i'n gaeth i'r cyffur!

Mae'n anodd disgrifio beth yw atyniad Championship Manager; bydd eraill sydd wedi chwarae'r gem yn gwybod yn iawn am beth dwi'n siarad. Ta beth, wythnos nesa bydd rhaid mi droi nol at y gwaith academaidd felly tan wyliau'r Pasg debyg bydd rhaid rhoi seibiant hir i'm hasgellwyr chwim a'm gwariant drud ar Eidalwyr di-brofiad! Nol at bethau pwysicach fore Llun!

No comments: