12.1.06

Yn ol i Bantycelyn

Dyma fi nol ym Mhantycelyn. Cyfnod arholiadau a chyfnod pen-blwydd y blog! Bron i flwyddyn yn ol yng nghanol tristwch/rhwystredigaeth cyfnod arholiadau fe ddechreuais flogio. Wel dyma fi eto yn wynebu arholiad, ie dim ond un. Oherwydd i mi wneud cynifer o draethodau a rheiny yn rai hir cyn y 'dolig rwy'n cael fy ngwobrwyo gyda nifer llai o arholiadau.

Hanes Rhyngwladol 1895-1945 yw'r pwnc. Mae'n ddigon difyr er rhaid i mi gyfaddef nad ydy'r pwnc wedi ysgogi llawer o angerdd ynof – ei ddewis oherwydd fod seminarau Cymraeg y gwnes i yn hytrach na'i ddewis oherwydd fod diddordeb mawr gennai yn y pwnc.

Tan y tro nesa

No comments: