18.9.06

Bedydd, B'gel a Bangor

Dwi newydd gael penwythnos anisgwyl o ddifyr! Ddoe dyma fi ac Andras yn penderfynnu mynd fyny y Gwm Nantcol i fedydd ffrind i ni, Angharad, yn Nghapel Salem Cefncymerau (y capel hwnw sydd yn y llun enwog 'Salem'). Roedd hi'n ddiwrnod braf hyfryd ar gyfer dathliad hyfryd sef yr arwydd fod Angharad wedi derbyn maddeuant pechodau trwy Iesu. Nid y weithred o gael ei bedyddio wrth gwrs seliodd hyn ond ffydd syml yn Nuw – arwydd cyhoeddus yn unig o'r hyn ddigwyddodd oddi mewn iddi oedd y bedydd. Ar lefel faterol.seremoniol roedd hon yn wasanaeth bedydd anarferol oherwydd nid mewn pwll mewn capel yr oedd Angharad yn cael ei bedyddio OND mewn afon oedd yn rhedeg heibio'r capel – gwych! Onide mewn afon (ac nid mewn capel) y bedyddiwyd Iesu ei hun? Ie! Dyma fideo byr ac aneglur o'r dyncio:


(dydy'r hyn rwy'n mwydro yn y cefndir ddim byd i wneud ar bedydd felly anwybyddwch y sylwadau amherthnasol!!)

Ar ol noson yn Beddgelert yn aros gyda Derek, angharad a'i Thad dyma ni'n mentro draw i Fangor i gapel bore ma. Dyma fi'n dychwelyd i Gapel y Ffynon (nepell o Undeb y Myfyrwyr) lle'r oedd fy nheulu yn aelodau nes i ni adael Bangor yn 1989. Roedd hi'n wasanaeth bach neis – tipyn mwy 'rhydd' nag y chwaer Eglwys Efengylaidd yn Aberystwyth – rhyw chwa o awyr iach. Roedd hi hefyd yn neis gweld hen gyfeillion. Gan mod i'n dechrau doethuriaeth ym Mangor wythnos nesaf roedd llawer o bobl yn meddwl mod i “wedi cyraedd Bangor” a hynny am dair blynedd – roedd hi'n anodd gorfod torri'r garw na gwela nhw fi yn rheolaidd o gwbl gan mod i ddim yn symud i Fangor am y tro be bynnag.

Ond mae'r penwythnos anisgwyliedig (roeddw ni wedi bwriadu ei tharo hi yn ol am Aber syth wedi'r Bedydd) yn y Gogledd wedi creu rhyw ysfa ynai i symud i Fangor wedi'r cyfan. Braidd yn hwyr i wneud tymor yma a braidd yn dyn yn ariannol i wneud hefy am y tro OND dwi'n rhyw dybio mae yna y byddaf i cyn hir neu hwyrach... duw a wyr. Roedd hi'n braf gweld Gwawr yn y bedydd, eto yn anisgwyliedig gan ei bod hi wedi bod dramor ers 6 mis ac doedd neb yn ei disgwyl hi adref am rai wythnosau eto.

Da bo.

No comments: