21.10.06

Oasis - The Masterplan

Dydy e ddim yn beth cŵl iawn i ddeud mae Oasis sydd wedi dylanwadu , yn gerddorol, arnoch fwyaf. Yn enwedig ag ystyried eich bod chi'n genedlaetholwr Cymreig ac eich bod chi, ar hyn o bryd, yn cyfansoddi stwff gwahanol electronaidd sef dau safbwynt sydd begwn oddi wrth Oasis! Ond dyna'r gwir genai ofn – y CD cyntaf erioed i mi brynu oedd eu hail albwm '(Whats The Story) Morning Glory' a hynny yn 1996 yr haf cyn i mi gychwyn ysgol uwchradd. Dysgais y gitâr wrth wylio fideo 'There and Then' perfformiad byw o Main Road, Manceinion wrth wasgu'r botwm pause ac edrych ble roedd bysedd Noel Gallagher yn syrthio ar y gitâr. Dwi'n gwybod nad ydy cerddoriaeth Oasis yn glêfar iawn OND mi roedd y cyfuniad o roc melodig gyda agwedd a siacedi denim cŵl yn ddigon i hudo hogyn ifanc fel fi ddeng mlynedd yn ôl – ac dwi dal wrth fy modd gyda nhw heddiw.

oasis

Y rheswm dwi di penderfynu tynnu sylw at Oasis heddiw yw oherwydd mod i wedi dod ar draws fideo newydd i'w clasur 'Masterplan' ar YouTube. Mae nhw'n rhyddhau EP o'i goreuon wythnos nesaf dwi'n meddwl a wedyn mis nesaf mae LP cyfan o'r goreuon yn ymddangos. Isod wele y fideo, mae e'n fideo eithaf difrifol ag ystyried mae cartŵn ydyw – mae wedi ei leoli (dwi'n cymryd) nôl lle dechreuodd y cyfan ym maesdrefi Manceinion lle roedd tad y Gallaghers yn yfed ei gyflog ac yn dychwelyd adref i'w curo hwynt. Bron a bod ar y diwedd fe welwch chi y band (neu cartŵns y band) yn cerdded heibio tafarn a dyn yn cael ei daflu allan gan y tafarnwr – tad y Gallaghers sy'n cael ei bortreadu fan yna bid siŵr.

Mwynhewch i Fideo a Fideo o gan yn Main Road yn 1996:



No comments: