13.1.07

Mwy o drenau i Aberystwyth?

Fe wyr fy nghyfeillion fod gen i rhyw hoffter o drenau. Nid hoffter yn yr ystyr mod i'n treulio p'nawniau Sadwrn yn steshon Amwythig yn nodi rhifau trenau ond hoffter o ran eu rhinwedd fel trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a chyfforddus... wel ar y prif leiniau beth bynnag. Mae fy hoffter o deithio ar drên yn deillio maen debyg o'r ffaith mod i'n dioddef o mild clostrophobia. Dwi'n mynd i deimlo'n rhwystredig a gofidus tra'n teithio ar fws oherwydd nad oes modd i chi symud o gwmpas yn rhydd, mynd i'r lle chwech ayyb... i'r graddau y medr dyn ar drên. Hefyd mae peth hanes gennyf o salwch teithio ac oherwydd hynny gwella genna i deithio ar drên. Yn ychwanegol waeth i mi gyfaddef mod i'n cael teithio ar drên yn weddol egsiting, o bosib oherwydd mae dim ond lond dwrn o weithiai'r flwyddyn yr af i ar drên.

Mae unrhyw un sydd wedi ceisio cyrraedd Aberystwyth neu dianc o Aberystwyth ar drên yn gwybod yn iawn fod y linell i Aberystwyth ymysg, os nad y gwaethaf ym Mhrydain. Dim ond bob dwy awr mae trên (a dim ond unwaith y diwrnod ar y penwythnos!) a phan ddaw honno bydd yn hen un disel araf a brwnt. Problem arall yw'r ffaith mae dim ond un lein sydd felly ar bob taith rhaid aros rhyw ddeng munud (er llawer mwy weithiau) mewn 'passing loop' ger Caersws i drên y cyfeirid arall oddiweddyd! Yn y bôn mae eisiau buddsoddi sylweddol ar y lein er budd economi y canolbarth.

Chwa o awyr iach felly oedd darllen yn y Cambrian News wythnos yma am fwriad y cwmni trenau newydd Wrexham, Shropshire and Marylebone Railway Company (WSMR) o brynu etholfraint 'franchise' llinell Cambrian o'r Amwythig i Aberystwyth ac i Bwllheli. Nid oes modd rhoi mwy o drenau na rhai cyflymach ar y linell eto oherwydd fod angen buddsoddi arian er mwyn cryfhau seiliau'r linell a gosod mwy o 'passing loops'. Mae Network Rail wedi gosod y cynllun o £15 miliwn gerbron Llywodraeth y Cynulliad er mwyn gweithredu'r gwelliannau. Pe bae y Llywodraeth i ariannu'r prosiect is-adeiledd bwysig yma yna byddai WSMR yn rhoi cynnig, wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, i redeg trenau cyflymach a mwy aml ar y linell ac o bosib byddai Arriva o ganlyniad i'r is-adeiledd gwell yn medru gwella eu gwasanaeth nhw ar hyn y linell.

Gresyn na fyddai Llywodraeth Llafur wedi buddsoddi arian Amcan 1 o'r cychwyn cyntaf ar brosiectau is-adeiledd sylweddol fel hon yn hytrach na'i wario ar ddwsinau o brosiectau llai. O fuddsoddi'r arian ar Is-Adeiledd mi buasai prosiectau a chwmnïau yn elwa ac byddai economi y Gorllewin yn elwa i greu Cymru gryfach.

2 comments:

Mari said...

Cytuno'n llwyr :-)

Wierdo said...

Cytuno'n llwyr ar sawl pwynt.

Dwinna'n hoffi trenau yn fwy na unrhyw modd arall o drafnidiaeth. Er fodon ddrud ac yn niwsans weithia!

Dwin trafeilio oleia unwaith y mis ar drenau, i Lerpwl gan fwyaf a man gallu cymryd rhywle rhwng 4 ac 8 awr i mi. Un tren sydd rhaid i mi fethu a man ychwanegu 2 awr i'n nhaith oherwydd y trenau i Aberystwyth. Grrr!