20.3.07

LlGC yn 100

Roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw. Can mlynedd yn ôl i'r union ddiwrnod hwn agorodd y Gen am y tro cyntaf. Brynhawn yma roedd yna brosesiwn trwy'r llyfrgell gyda phibydd yn y blaen yn cael ei ddilyn gan borthorion yn cario llyfrau hynaf a mwyaf gwerthfawr y llyfrgell. Er fod e'n ddigwyddiad braidd yn uchel-ael roedd hi'n braf mae Cymry oedd yna yn agor a chyfarch ac nad oedd yna arlliw Brydeinig yn agos i'r lle ac nid oedd Carlo na'r Frenhines yn rhan o'r dathliadau! Mae llawer wedi newid ers i'r Llyfrgell agor gan mlynedd yn ôl ac roedd presenoldeb y teulu Brenhinol yn yr agored gan mlynedd yn ôl a'r diffyg presenoldeb heddiw yn sefyll allan i mi – dangos sut bo Cymru wedi magu hunan hyder.

Byddai'n braf petai fy wyrion a'm hwyresau yn nathliad 200 mlynedd y llyfrgell yn 2107

No comments: