22.4.07

Ar wib yn Rhufain – I

Taith ffwdanus oedd hi i'r maes awyr ym Mryste. Yn hytrach na dilyn y briffordd o Landdarog (Pentre Menna) fe benderfynwyd teithio ar hyd ffordd wledig a awgrymwyd gan gyd-weithiwr i Lewis (Tad Menna). Myfi oedd yng ngofal y map ac wedi i mi fethu cyfarwyddo Lewis yn gywir unwaith aeth y cyfan yn ffradach a dyna ni ar goll ac amser cau check-in ein hawyren yn prysur agosau. Ond diolch byth yn araf bach trodd y ffyrdd bach troellog yn ffyrdd mawr syth a dyma ni'n cyradd y maes awyr.

Hedfan gyda'r cwmni hynod easyJet oeddem ni. Un o'r 'budjet airlines' – dy chi ddim yn cael dim byd heblaw am sedd ac dydy'r sedd honno ddim hyd yn oed wedi ei neilltuo yn arbennig i chi – nid annhebyg i deithio ar fws cyhoeddus neu dren; oni bai eich bod chi filltiroedd lawer yn yr awyr ac yn teithio ar cyflymder i rai cannoedd milltir yr awr! Gwydraid o win ar yr awyren ac yna eistedd yn ôl ac ymlacio (rhywbeth yr ydw i'n ei gael yn reit anodd gwneud ar awyren fel rheol – roedd y gwin yn gymorth.)

Cyrraedd y maes awyr a darganfod (yn ôl yr arfer gyda'r 'budjet airlines') fod y maes wedi ei leoli gryn bellter o ddinas Rhufain ei hun. Roedd bysys 'shuttle' yn rhedeg i ganol y ddinas ond roedd ein hostel ni tu allan i'r canol yr ochr draw i'r ddinas felly toedd y bws i ganol y ddinas fawr o help. Mynd i holi wedyn faint buasai tacsi yn costio – 60 ewro – braidd yn ddrud ond doedd hi ddim yn ymddangos fel bo fawr o opsiwn. Yna dyma ni'n dangos cyfeiriad yr hostel i aelod o staff y maes awyr ac, “wa-la”, dyma hi'n cynllunio taith hynod i ni yn defnyddio cyfuniad o fysys cyhoeddus a threnau tanddaearol. Un bws o'r maes awyr i ben pellach y linell tanddaearol – aros ar hwnnw tan y pen arall – yna dal bws arall fyddai'n ein gollwng ni union tu allan yr hostel. Awr yn ddiweddarach a dim ond 2 ewro yn dlotach dyma'r bws yn ein gollwch ger yr hostel. Roedd hi'n nosi a ninnau wedi blino teithio felly aros o amgylch yr hostel am swper oedd y cynllwyn y noson gyntaf.

Mwy am y gwyliau i ddod ar y blog dros yr wythnos nesaf, yn y cyfamser beth am i chi ddarllen blog newydd Adrian Morgan (a fu yn Rhufain gyda mi)?

No comments: