25.4.07

Clymbleidio - tysen boeth, ond diolch i bwy?

Ymddiheuriadau fod y blog wedi bod yn dawel hyd yma heddiw, mae yna reswm sef mod i wedi torri fy ngwallt yn fyr sy'n beth mawr i mi ac mod i hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar y traethawd yma heddiw. Dwi wedi torri ei asgwrn cefn bellach ac byddai i wedi ei orffen erbyn diwedd yr wythnos. Mae wedi bod yn ddiwrnod reit gynhyrfus gyda'r Etholiad heddiw gyda Blog Vaughan Roderick yn poethi pob munud. Blog Vaughan yw y blog i ddarllen ar hyn o bryd. Torrodd e stori bore ma fod Llafur am fynd i mewn i drafodaethau gyda Phlaid Cymru, mae Rhodri Morgan a Peter Hain yn gwadu'r peth ond yn bersonol rwy'n ymddiried yn Vaughan ddigon i gredu fod digon o sail i'w stori. Fodd bynnag mae'r holl siarad yma am glymbleidio yn fy mlino i bellach yn ystod yr ymgyrch ar lawr gwlad Ceredigion (a Llanelli) toes neb yn son am glymbleidio ac dwi'n amau fod anoracks etholiadol fel Vaughan a fi fy hun i raddau yn euog o leicio'r syniad rhamantus yma am bleidiau yn cysgu gyda'i gilydd. Yn bersonol baswn ni'n leicio tase'r cyfryngau yn canolbwyntio mwy ar y ras stret rhwng y pleidiau a thrafod clymbleidio maes o law.

Daeth taflen ddifyr a doniol trwy'r post heddiw gan yr anenwog UKIP eu prif gri yn ôl yr arfer yn etholiadau'r cynulliad yw “Abolish the Welsh Assembly” ac hefyd “Immigration – Take back control of our borders. We must know who is coming in and out.” Ond y cwestiwn mae'n nhw'n cael yn drafferthus yng nghyd destun yr etholiad Cenedlaethol Cymreig hwn yw pa ffiniau yn union? Clawdd offa? Sgersli bilif!

Mynd allan i ymgyrchu yn ward Bronglais, Aberystwyth heno – dosbarthu llythyrau wedi eu hysgrifennu gyda llaw – tacteg a grêith edmygedd i ni gan rai etholwyr gobeithio. Ac yna ymlaen i'r Morlan erbyn 7.30 i'r prif hystings – dwi'n disgwyl ymlaen yn FAWR i hyn – adroddiad a lluniau ar y blog fory gobeithio.

No comments: