19.5.07

Ceisio dod o hyd i'r aur ar ben yr enfys


Maen rhaid fod Rhodri Morgan a'i gyd Lafurwyr mewn panig llwyr heno. Dydy nhw, yng Nghymru, erioed wedi cael y profiad o beidio dal pŵer. Ar ben y drychineb o golli awenau llywodraeth yng Nghymru bydd y glymblaid enfys yn dod a PR i fewn i etholiadau lleol ac o ganlyniad mi gollith Llafur ei hegemoni ar lefel Cyngor Sir hefyd. Er mai Llafur (gellid dadlau) ddaeth a Datganoli i Gymru, yr eironi fawr yw fod y datganoli hwnnw wedi dod a dechrau'r diwedd i hualau'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Yn wreiddiol fy ngobaith i oedd cael bod yn wrthblaid gref am bedair blynedd arall er mwyn cael codi momentwm i herio Llafur a chipio grym yn 2011. Ond gan bod y Dem. Rhyddion wedi dweud 'no we' i glymblaid gyda Llafur mae'n rhaid i Blaid Cymru fod yn rhan o'r llywodraeth mewn rhydd fodd. Felly y ddau ddewis, fe ymddengys, ar hyn o bryd ydy rhain:

1. Llafur-Plaid Cymru (gyda Llafur yn arwain a Plaid yn gi bach)

2. Plaid Cymru-Ceidwadwyr-Dem Rhydd (gyda Plaid Cymru yn arwain a'r lleill yn cefnogi/cyfranogi)

Waeth i fi fod yn onest, toes yr un o'r opsiynau uchod yn ddelfrydol felly mater o ddewis y 'lesser of two evils' yw hi bellach. Yn bersonol dwi wedi penderfynu mod i'n ffafrio mynd i fewn gyda gweddill y gwrth-bleidiau sydd, wrth gwrs, yn cynnwys yr hen fwgan sef y Torïaid. Mewn amddiffyniad i gefnogi clymblaid o'r fath gwerth fyddai pwysleisio mai ni, Plaid Cymru, fyddai yn arwain y Glymblaid, nid y Ceidwadwyr. Dyma wrth gwrs oedd safbwynt IWJ yn ystod yr ymgyrch, 'we would never go in to a Tory-led coalition', mae 'plaid-led' yn fater cwbwl wahanol wrth gwrs.

Mae Bethan Jenkins AC yn pwyntio allan ar ei blog yn y postiaid yma y byddai cael Plaid Cymru i gefnogi clymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn dipyn o her. Byddai'n rhaid i'r aelodau cynulliad gytuno wrth reswm, ac yna byddai rhaid i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol gefnogi'r syniad ac yn olaf byddai rhaid i Gyngor Cenedlaethol y Blaid ei dderbyn. Ni fydd aelodau cyffredin y Blaid yn cael cyfle i ddweud eu dweud, wel yn swyddogol beth bynnag.

Yn answyddogol mae aelodau cyffredin y Blaid wedi dechrau protestio yn barod a hynny ar, ie dyna chi, maes-e yn y drafodaeth yma! Mae Gwahanglwyf Dros Grist wedi cyhoeddi “byddai'n well gen i rwygo fy ngherdyn aelodaeth Plaid Cymru na mynd i glymblaid gyda'r blaid a ddinistriodd fy nghymuned.” Ond mae aelod cyffredin arall o'r Blaid, Cymru13, yn ateb yn ôl gan ddweud yn reit graff a chywir: “Glanhau mes Llafur Sosialaidd wnaeth y Torïaid yn yr Wythdegau - Os na fyddai Llafur di gor wario gymaint a'r Lo a Haearn o 1945-1979 nes fod y wlad bron yn bancrupt byddai dim rhaid i'r Toriaid fod mor galed ar Gymru.”

Yn ogystal mae Rhods, Ceidwadwr Cymreig, wedi dechrau trafodaeth ar maes-e yn nodi ei 'Dream Team' ar gyfer cabinet y llywodraeth enfys, yma. Yn y rhithfro mae V. Roderick yn cynhyrfu'n lan, yma.

Felly dyna fy safbwynt i – os oes rhaid i'r Blaid fod yn rhan o glymblaid/partneriaeth/dealltwriaeth pam ddim ei harwain hi? Os methith Llafur a ffurfio Llywodraeth rwy'n disgwyl ymlaen yn eiddgar i weld sut y gwingith Eluned 'arrogant' Morgan ASE allan o hwn.

No comments: