13.7.07

Glaw cadw draw

Dydy e ddim yn ffasiynol i sôn am y tywydd. Ond maen annodd peidio yr haf yma. Dwi'n synnu mod i hyd yn oed wedi galw'r cyfnod yma o'r flwyddyn yn haf. Roeddwn ni'n disgwyl ymlaen i gael mwynhau gwneud fy ngwaith ymchwil a darllen allan yn yr ardd - heb ddim byd arall yn mynd am sylw - jest fi a'r llyfr yn mwynhau yn yr haul. Breuddwyd gwrach oedd gobeithio gael Mehefin a Gorffennaf tebyg. A beth am weddill yr haf? Wel dydy penwythnos yma yn gwella dim. Glaw fory, cymylau dydd Sadwrn a mwy o law dydd Sul a dydd Llun (gweler y mapiau).

Mae rhai wedi sôn fod yna 'heat wave' ar y ffordd erbyn dechrau Awst, wythnos yr Eisteddfod. Ddim yn ôl y dyn tywydd yn anffodus. Dyma'r mae'r BBC yn ei ddweud am ddiwedd Gorffennaf dechrau Awst:


Some sunshine in the south: The Azores High may at last begin to assert itself in our direction and some southern areas of the UK can expect the weather to be a little drier and warmer - northern areas will be the last to see any improvement, if at all.
Wellingtons bydd hi dwi'n amau!

2 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Dwi'n poeni am y Steddfod Gen 'wan. Mae nhw'n trio codi'r holl stondinau yn y glaw 'ma.

Rhys Llwyd said...

Ti'n iawn. Mi fydd y maes yn slwj cyn i'r wythnos ddechrau achos bydd yr holl loriau a'r craenau yn tramwyo dros y caeau dros yr wythnosau nesa wrth osod y maes yn torri'r tir i gyd lan.