28.8.07

Fy IQ

Dwi wedi gwneud prawf IQ ar y we ac wedi cael sgor o 127 sy'n reit dda o gofio mod i wedi ei wneud yn fy ail iaith ac fy mod i'n ddislecsig!


IQ Test Score

3 comments:

Cer i Grafu said...

Wi'n tueddu meddwl bod y profion 'ma ond yn dangos pwy mor dda yw rhywun yn gwneud y teip hyn o brofion.

Mae fy meddwl i yn cau i lawr o flaen unrhyw broblem fathemategol, ac wrth weld y cwestiwn 'na biti oedran Sarah fe gwmpws fy nghalon i'm hesgidiau. Wnetho i ddim anfon y peth i mewn i gael fy sgor ond mae'n siwr gen i y bysa fe yn y degau cynnar.

Ond da iawn ti Rhys.

Jean Calvin said...

I Cor. 1,31

Ifan Morgan Jones said...

Dwi'm yn trystio profion IQ! Dw i wedi cael sgor o 140 unwaith a dw i'n sicr ddim mor glyfar a hynny. Mae'n dibynnu ar y cwestiynnau. Dwi methu cyfri dros ddeg heb gymryd fy sgidiau bant.