1.8.07

Iechyd a Diogelwch wedi mynd rhy bell - achos y Prifathro ddoe

Ymddheuriadau fod y blog wedi mynd yn dawel eto. Dwi wedi bod ffwrdd am gyfnod ar wyliau yn Sir Nottingham gyda'r teulu ac ers dod nol dwi wedi bod yn brysur yn paratoi pethau i'r Gymdeithas ac i'r Gorlan ar gyfer y 'Steddfod wythnos nesa a dwi hefyd wedi bod yn trio cael peth gwaith ymchwil wedi ei wneud wythnos yma hefyd. Ond dwi wedi fy nghyflyru heddiw i bostio mewn ymatebn i'r stori newyddion tynnodd Menna fy sylw ato am y Prifathro sydd wedi ei ddal yn euog o beri marwolaeth bachgen a syrthiodd oddi ar risiau yn yr ysgol.

Mae'n stori tu hwnt o drist. Nid o ganlyniad i'r cwymp, yn uniongyrchol, y bu farw'r bachgen ond yn hytrach wedi iddo gyraedd yr ysbytu fe ddaliodd y niwmonia a'r hospital superbug 'MRSA' a dyna a'i laddodd yn y diwedd. Ofnadwy o drist ac mae fy nghalon yn crio dros deulu'r bachgen.

Ddim mod i am dynnu i ffwrdd o ddifrifoldeb a thristwch marwolaeth y bachgen bach ond i mi ddoe fe welwyd deddfau iechyd a diogelwch yn mynd yn rhy bell. Alla i ddim ei gweld hi'n gyfiawn fod Prifathro yn cael ei ddedfrydu yn euog o beri marwolaeth a'r sail nad oedd y grisiau yn saff. Diffiniad y geiriadur o 'accident' ydy:

1. an undesirable or unfortunate happening that occurs unintentionally and usually results in harm, injury, damage, or loss; casualty; mishap: automobile accidents.
2. Law. such a happening resulting in injury that is in no way the fault of the injured person for which compensation or indemnity is legally sought.
Fe fedrai werthfawrogi sut y dylai teulu'r bachgen dderbyn 'compensation' gan y Cyngor Sir o bosib ond roedd dedfrydu'r Prifathro yn bersonol yn euog yn mynd a hi un cam rhy bell.

O droi'r achos ar ei ben felly. Pe tae yr hogyn wedi syrthio ar risiau adre gyda'i rieni neu ar risiau yn y dre tra gyda'i rieni a fyddai'r wladwriaeth yn erlyn a chael ei rieni yn euog o'i farwolaeth? Go-brin. Ac yna beth am achos enwog Maddy McAnn gafodd ei dwyn o'i gwely ym Mortiwgal yn gynt eleni tra oedd ei rhieni allan yn cael swper? Oni ddarganfyddant y cipiwr oni ddylai ei rhieni fod yn gyfrifol oherwydd nad oedden hwy yn cadw llygad drosti?

Fy nadl i yw fod rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth erlyn unigolion am farwolaethau damweiniol. Mae damweiniau yn digwydd dyna ffaith trist bywyd - os oes 'bai' ar rywyn fel y prifathro yna dylid gollwng y gair damwain o'n geirfa o bosib. Os rhoi bai ar rywun dylid rhoi bai ar sefydliad ond oni bai bod cysylltiad uniongyrchol gyda unigolyn (a doedd dim yn achos y Prifathro yma druan) ni ddylid erlid uniogolion yn enwedig athrawon. Dysgu plant yw eu gweith nhw chware teg nid bod yns wyddogion diogelwch.

Sori am y postiad tra difrifol yma. Gadewch eich sylwadau diddorol byddai clywed eich barn chi ar y pwnc.

5 comments:

Huw said...

Cytunon llwyr.

Yn ôl son yr oedd y plant wedi cael deud wrthynt ddim i fynd yn agos at yr steirie, ond plant yn blant, yn bod yn ddibaid. I allu cadarnhau fod pob plentyn ddim yn cael damwain, bydd angen o leiaf un aelod o staff i bob plentyn yn ogystal a gwyrth. Mae hyn yn amhosib, a felly nid oes neb yn gallu cael bai am y fath beth.

Yr un peth yn wir gyda Madeline McCann a James Bulger. Controversial dros ben, ond petasaf yn cymyd plentyn rhywun am dro neu allan i'r siopau am y pnawn, yna dychwelyd a deud wrth y rhieni fy mod wedi colli'r plentyn. Dwi'n sicr y caf fy meio am golli'r plentyn.

Mae'r peth iechyd a diogelwch ma wedi mynd dros ben llestri. Nifer gyda pobol yn baglu ar bethau. Os byswn yn mynd am dro i'r gedwig ac yn digwydd baglu ar garreg, ydwi'n cymyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r Comisiwn Coedwigaeth i'r llys?

Bydd neb yn gwneud dim yn y diwedd. Mae pob athro/athrawes gyda'r bygythiad o ffindio'u hunain yn y llys rwan, mewn ofn y gall rywbeth fynd o'i le.

Robert Humphries said...

Cytunaf yn llwyr, Rhys. Roedd marwolaeth y bachgen yn drist, ond yn anffodus, mae damweiniau'n digwydd. Yn ôl y ffeithiau fel dwi'n eu deall, doedd dim angen erlyn y prifathro, a dydy e ddim yn haeddu cael dirwy neu record troseddol oherwydd hyn.

Yn anffodus, mae angen beio rhywun am bopeth heddiw. Yn yr UDA, y byddai hyn wedi bod yn arwain at achos sifil, nid un troseddol, dwi'n credu. Ond, beth bynnag mae pobl yma yn meddwl fel hyn hefyd.

Wrth gwrs, mae 'na achosion esgeulustod bwriadol lle mae erlyniad yn briodol.

Ond, wrth glywed am yr erlyniad hon, dwi'n poeni y gallai pobl fod yn anewyllysgar i weithio mewn swyddi lle mae rhesg o ddamwain.

Dydw i ddim yn cofio pethau fel hyn yn digwydd pan oeddwn i'n byw ym Mrhydain 20 mlynedd yn ôl. Ydy'r gyfraith wedi newid yn dipyn?

Huw said...

Robert - Oherwydd pobol yn pryderu mwy am risg iechyd a diogelwch, mae nifer o ffeiriau a digwyddiadau cymdeithasol ddim yn digwydd bellach, gan fod y trefnwyr methu fforddio talu am yr yswiriant maent eu hangen.

Unknown said...

Remember the Flag Flying issue (http://alanindyfed.blogspot.com) and sign the petition - http://petitions.pm.gov.uk/nationalflags/, write to samantha.turner@culture.gsi.gov.uk and go to www.peterdcox.me.uk/. Look up Bryn Glas in Wikipedia and read about the Welsh victory. Give your help to Plaid in the coming General Election (I'm not joking!). Feel good that you are working for Wales. Hwyl fawr oddiwrth Llanelli.

Mei said...

Rhaid i mi anghytuno fama.

Fe ddwedwyd yn y llys mae dim ond un athrawes oedd ar ddyletswydd gyda 59 o blant ar yr iard.

Dydy gofyn am fwy na hyn ddim yn 'Health and Safety gone mad', yfmi.

Ac nid ydy'r gymhariaeth gyda'r cartref yn deg chwaith. Mae na lot o bethau nad oes gen i hawl i wneud o herwydd I&D yn y gweithle, ond wrth gwrs does neb i stopio fi adra.