15.8.07

maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr eisteddfod?

Mae pawb yn ymwybodol o hoffter y Cymry o'r ddiod gadarn. Amhosib yw mynychu unrhyw ddigwyddiad Cerddorol, Llenyddol neu Chwaraeon Cymreig heb fod y cwrw neu'r gwin yn llifo'n rhydd. Meiddia i awgrymu fod presenoldeb y ddiod gadarn ar lawer achlysur wedi troi yn bwysicach na'r gerddoriaeth ei hun? Yn bwysicach na'r gêm rygbi ei hun?

Nos Fawrth diwethaf roedd Meic Stevens yn lansio ei albwm newydd – roedd yna stondin yna yn gwerthu'r CD. Er fod yna lond pabell o bobl yn 'lyfio', yn 'addoli' ac 'yn ffan penna' Meic – dim ond un, ie un, CD a werthwyd. Pam hynny te? Wel esboniad fy nghyfaill (nad sy'n Gristion o argyhoeddiad fel fi) oedd y byddai gwell ganddynt wario eu £10 olaf ar bedwar diod arall nag ei wario ar CD newydd eu 'harwr'.

Nawr cyn mynd ymlaen ym mhellach rhaid i mi bwysleisio mae nid siarad o safbwynt dirwestol ydw i. Nid wyf yn llwyr-ymorthodwr, mae pawb sydd yn fy adnabod yn gwybod yn iawn am fy hoffter o win goch, seider potel ac yn fwy diweddar (a petrusgar) fodca a côc! Rwyf yn yfed alcohol yn gymhedrol ac yn falch o wneud. Felly nid Cristion yn twt-twtian mo'r llith yma ond yn hytrach Cymro yn gofidio am les ei gyd-Gymry a'i genedl.

Fel y bydd rhai wedi tybio erbyn nawr yr hyn am cymhellodd i roi'r ychydig eiriau yma at ei gilydd oedd y profiad o weld y crochan meddwol ys gelwid yn 'maes b' wythnos diwethaf. O fyw ym Mhantycelyn am dair mlynedd dwi wedi gweld Cymry Cymraeg ac alcohol yn dawnsio'r ddawns olaf sawl tro fel y gellwch ddychmygu ond roedd maes b eleni yn ddychryn i bawb.

I ddechrau roedd oedran y plant yn hurt o ifanc – rwy'n gwybod fel ffaith fod yna blant 13 oed yna yn cael eu gweini tu ôl y bar heb ddim cwestiynnau yn cael eu gofyn. I ddweud y gwir dywedodd sawl un wrthyf nad oedd staff y bar yn gofyn am unrhyw I.D. gan neb. Rhaid i mi gyfaddef mod i wedi cael fy ngweini cyn fy mod i'n 18, a dwi ddim yn gweld problem gyda hyny cyhyd a bod yr yfed yn gall a chymhedrol. Ond mae gweini alcohol i blant 16, 15, 14 ac 13 hyd yn oed sydd yn amlwg wedi cael gormod i yfed eisioes nid yn unig yn erbyn y gyfraith ond yn yn sylfaenol an-foesol. Diddorol oedd sylwad Rhys Wynne yn fy mlogiad diwethaf am hyn:

“Fues i ddim draw i Faes B, ond fe ddywedodd bron i pob un person welais i oedd wedi bod yno, eu bod nhw hefyd wedi cael tipyn o sioc - sy'n dweud llawer o ystyried ein hagweddau arferol ni Gymry Cymraeg ifanc(ish) at alcohol.”


Tybed a yw Llys yr Eisteddfod yn ymwybodol o anferthedd y broblem? Yna beth am y prif gopyn Richard Brunstrom? Roedd e'n troedio'r prif faes yn ystod y dydd, tybed beth fyddai ei ymateb pe tae wedi penderfynnu troedi maes b am 1am? Tybed pam fod awdurdodau'r Eisteddfod yn dewis anwybyddu'r broblem yma? Ydy nhw'n dibynnu ar yr incwm o bosib ac felly ddim am amharu ar rhywbeth sy'n 'gweithio' yn ariannol? Dim ond gofyn.

Dwi ddim cweit yn siwr beth yw'r ateb i'r broblem ond dyma rai argymhellion:

1. Codi oedran maes b o 14 i 16 (er yn gam mosegol cywir mae'r steddfod yn anhebygol o gytuno oherwydd bydd yn golygu cwymp sylweddol mewn incwm)

2. Bod yn bar yn maes-b yn tynnhau eu gofyn am I.D. ac yn peidio gweini pobl sy'n amlwg wedi cael gormod yn barod (ddim yn ateb y broblem mi wn ac yn anodd i'w weithredu, ond yn gam i'r cyfeiriad cywir)

3. Gwaharadd dod ac alcohol personnol ar y maes ieuenctid (braidd yn llem efallai ond yn ffordd effeithiol o leihau problem gor-yfed yn maes b)


Ond yn fwy cyffredinnol dwi'n meddwl y dylai llywodraeth y cynulliad ddod a'r argymhellion isod i mewn i rym dros y wlad:

1. Gwaharadd hysbysebu alcohol (fel tobbaco)

2. Gwahardd partion punt, a cynnigion ar ddiodydd sydd yn annog gor-yfed

3. Codi treth uwch ar alcohol ac felly yn gwneud gor-yfed yn fusnes rhy ddrud i wneud – yn ennwedig i bobl ifanc.


A dyma fi mwy na thebyg wedi dod i ddiwedd y postiad mwyaf amhoblogaidd dwi erioed wedi cyhoeddi ar fy mlog. Ond yn dilyn dinistr maes b roedd fy nghydwybod yn dweud wrtha i fod rhaid dweud rhywbeth. Dwi o blaid yfed cofiwch, jest byddwch gall a chymhedrol.

Iechyd da!

2 comments:

Rhysun said...

Mae Maes Ieuenctid heddiw yn le hollol wahanol i'r hen Faes Pebyll mae rhieni'r 'genhedlaeth Maes-b' yn ei gofio. Yn un peth, nid 'Maes Ieuenctid' yn unig oedd o - roedd croeso i bobl o bob oed. Yn ail, roedd y gwirfoddolwyr oedd yn cadw trefn ar y lle yn oddefgar ac yn rhesymol, ac felly yn ennyn parch gan y gwersyllwyr. Doedd dim ffens wyth droedfedd a landmines yn eu hamgylchynu a doedd dim 'border guards' bwystfilaidd mewn iwnifforms du yn patrolio'r lle.

Ond, roedd cymaint, os nad mwy, o alcohol a chemegolion eraill yn cael eu llyncu gan y gwersyllwyr bryd hynny ag y sydd heddiw. Y newid mawr ers yr oes aur (dwi ddim yn gwisgo sbectols binc - wir yr!) ydi bod pobl ifanc y dyddiau hyn wedi cael eu hynysu, yn fwriadol, oddi wrth weddill y byd. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg parch, a dyma ydi'r broblem, nid yr alcohol.

Alwyn ap Huw said...

Mae'n debyg bod plant deuddeg oed yn cael codi pabell ar faes B heb arolygaeth rhiant.

Y tro diwethaf imi gampio yn yr Eisteddfod (Wrecsam '77) 30 mlynedd yn ôl roedd y maes pebyll, heb far na chyngerdd, yn rhemp o feddwdod, rhyw beryglus a chyffuriau anghyfreithlon. Efo bar a chyngerdd ar Faes B, mae'n amlwg bod pethau yn sicr o fod yn waeth nag oeddynt yn nyddiau ieuenctid rhieni y plantos dan sylw.

Pa fath o riant sydd yn gadael plentyn 12, 13, 14, 15 oed codi pabell yn y fath le, gan wybod pa mor ddieflig oedd y maes pebyll mewn dyddiau diniweitiach?

Er cytuno bod yr Eisteddfod a'r Heddlu ar fai, teimlaf fod llawer mwy o fai ar rieni'r plant meddw am adael eu plant gwersylla yn ddi-arolygaeth mewn lle, yr oeddynt yn gwybod, o'u profiad eu hunain, ei fod yn llawn cyffur, hwrio a diod!