10.9.07

Nid Oes Efengyl Arall (1/2)

Bu llawer o sôn yn ddiweddar am 'ddiwygio' ein heglwysi ac am 'ail-feddwl' am rôl a phwrpas Cristnogaeth yn y Gymru gyfoes. Dymuniad rhai o weinidogion ac offeiriaid ein heglwysi yw llusgo ein Cristnogaeth o gysgod ein gwaddol Brotestannaidd-Galfinaidd, lle bu'r eglwys, yn eu tyb hwy'n gwywo ac yn ymdrybaeddu yn ei gorffennol amherthnasol. Yn Y Goleuad yn ddiweddar datganodd Aled Jones-Williams bod rhaid i ni ysgwyd yn rhydd o ddylanwad negyddol ceidwadaeth uniongred R. Tudur Jones a chrybwyllodd blot gan efengylwyr i 'heijacio' Eglwys Bresbyteraidd Cymru! Ensyniadau diddorol tu hwnt! Ai rheitiach fyddai i Aled Jones-Williams a Dan Brown, (y Da Vinci Code) greu campwaith llenyddol wedi'i sylfaenu ar y conspiracy theory hynod yma? Ac ni ddylid anwybyddu gyfraniadau ffwndementaliaid di-gred fel Iolo ap Gwyn i'r ddadl. Yn wyneb y fath fwydro sy'n gwneud dim ond cymhlethu meddyliau Cristnogion heb sôn am y rhai sy'n chwilio am y gwirionedd, pa beth gwell i'r Cristion ei wneud ond troi yn ôl at air Duw ac edrych ar y Beibl trosom ni ein hunain? Wedi'r cyfan, dyna sut y digwyddodd pob gwir-ddiwygio yn Hanes yr Eglwys - pobl yn edrych y tu hwnt i draddodiad a thuedd eu hoes a mynnu dychwelyd at ffynnon y dŵr bywiol, a darganfod o'r newydd, neges oesol-gyfoes efengyl Iesu Grist.

Yng nghyd destun y Diwygiad Protestannaidd mae i'r Epistol at y Galatiaid arwyddocâd arbennig. Yn ôl yr hanes, drwy fyfyrio ar neges yr Epistol hwn y gwelodd Martin Luther ragrith Gristnogaeth sefydledig Ewrop ei oes ac, fel y Galatiaid, sylweddoli bod angen i'r Eglwys droi yn ôl at bregethu gwir efengyl Crist - efengyl gras a hynny yn unig - yn hytrach nag efengyl â dôs go lew o weithredoedd a defodau ynddi hefyd. Felly yn y postiad hwn a'r nesaf hon carwn fwrw golwg dros rai adnodau o'r bennod gyntaf o Galatiaid. Rwyf am ganolbwyntio ar adnodau 6 i 9 sy'n dwyn y teitl 'Nid Oes Efengyl Arall' yn y Beibl Cymraeg Newydd.

Wrth gyfarch y Galatiaid yn yr adnodau agoriadol (1-5) mae Paul yn datgan fod y geiriau mae'n eu ynganu yn rhai sy'n dod '...trwy awdurdod Iesu Grist.' Mae'r llythyr felly yn haeddu ystyriaeth deg oherwydd geiriau ysbrydoledig ydynt. Daw'n amlwg yn y chweched adnod fod y Galatiaid wedi crwydro oddi wrth efengyl Crist. Y mae Paul yn mynd mor bell ac awgrymu fod y Galatiaid fel petaent yn bradychu Iesu eu gwaredwr; mae'n synnu fod y Galatiaid wedi cefnu '...ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist'. Mae'n bosib fod yna elfen o geisio anfon y Galatiaid ar guilt trip fan yma - ceisio gwneud iddynt sylwi nad efengyl rhywun rhywun y maen nhw wedi gwyro oddi wrtho, ond yn hytrach efengyl eu gwaredwr.

Tybiaf fod adnod saith yn arwyddocaol ac yn hynod berthnasol i ni heddiw. Mae Paul yn cydnabod nad yw'r Galatiaid wedi troi eu cefnau ar Gristnogaeth yn llwyr nac ychwaith wedi troi'n anffyddwyr neu coleddu crefydd amgen. Yn hytrach, maen nhw wedi gwyrdroi ac addasu'r efengyl i fodloni a diwallu eu anghenion eu hunain. Oni allwn ni weld hyn yn digwydd yn y Gymru hon: nid ymwrthod yn unig a Christnogaeth a wneir ond hefyd ymwrthod â Gair Duw fel y dymunai Duw i ni ei dderbyn. Glyna ein pobl wrth 'Gristnogaeth' ond y mae eu dehongliad o Air Duw yn dra wahanol i ddealltwriaeth 'an-oleuedig' Daniel Rowlands a Thomas Charles o ewyllys Duw ar ein cyfer.

...parhad yn y postiad nesaf

No comments: