14.12.07

Tesco extra: un o'r duwiau ôl-fodernaidd

Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. (Genesis 1:5)

Mae hi'n 11.30pm a dwi newydd ddychwelyd o Tesco extra Bangor wedi prynu papur i fy argraffydd. Pe taw ni wedi eisiau aros i orffen gwylio ffilm byddai'n gorffen am 1am yna dim problem – mi fyddai Tesco dal ar agor, maen siop 24 awr. I rywun sydd wedi byw yn Aberystwyth trwy ei oes tan y tymor yma mae byw o fewn deng munud i Tesco 24 awr yn big deal, ys dywed y Sais. Wedi iddi basio 9pm yn Aberystwyth yr unig opsiwn sydd gyda chi yw Spar ac heno ni fyddai Spar yn gwerthu papur i fy argraffydd ac o safbwynt fy mola lactose intolerant nid yw Spar yn gwerthu llaeth gafr chwaith! Ar y cyfan mae Tesco yn 'ddrwg', wedi dweud hynny alla i ddim gwadu mod i wrth fy modd gyda'r hyblygrwydd o fynd i siopa am unrhyw beth (bron a bod) unrhyw amser o'r dydd a nos. Bellach nid wyf wedi fy nghlymu wrth gonfensiwn dydd a nos traddodiadol – ar ryw ystyr rwyf wedi cyhoeddi Genesis 1:5 yn amherthnasol.

Byddai rhai yn dadlau nad oes i Tesco 24 awr ysbryd ôl-fodernaidd oherwydd fod Tesco drwy ei rym monopoliaidd yn dileu a lladd plwraliaeth yn y farchnad ac yn creu unffurfiaeth Tesco Valueaidd. Plwraliaeth wedi'r cyfan yw un o gonglfeini ôl-foderniaeth. Pwynt teg, ond dwi'n meddwl y gallwch chi ddadlau fod i Tesco 24 awr ysbryd ôl-fodernaidd.

Mae bodolaeth archfarchnad sy'n gwrthod y confensiwn dydd a nos a chyhoeddi ei bod hi'n ddydd trwy'r dydd (a nos) yn gysyniad ôl-fodernaidd iawn.

Mae gwareiddiad ers ei geni wedi derbyn yn ddi-gwestiwn y bod ein cymdeithas i fod yn organ byw yn ystod oriau'r dydd ac ein bod ni gyd i gysgu trwy'r nos, dyna oedd y norm a osodwyd allan yn Genesis 1:5. Ni fyddech chi'n meddwl am brynu llaeth gafr neu bapur argraffydd am 11pm oherwydd mi fyddech chi naill ai wedi bod ddigon trefnus i'w brynu cyn 5pm neu mi fyddech chi'n ysgrifennu nodyn i'ch hatgoffa i fynd i brynu y bore wedyn – dyna fyddai'r confensiwn, 'yn y dydd mae siopau i fod ar agor.' Nid bellach fodd bynnag – mae ysbryd yr oes – yr ysbryd ôl-fodernaidd hyd yn oed yn rheoli dydd a nos. Yn wyddonol mae dydd a nos dal i fodoli wrth reswm oherwydd mae'n tywyllu yn y nos, diflanna'r haul ac fe goda'r lleuad ond mae metaffiseg wedi trechu ffiseg oherwydd er gwaetha machlud ffisegol yr haul mae metaffiseg ysbryd ôl-fodernaidd yn ein cadw'n effro 24 awr.

Ond eironi mawr hyn yw bod Tesco 24 ddim yn 24/7 mewn gwirionedd oherwydd mae'n rhaid i Tesco hyd yn oed blygu i'r Sabath oherwydd dim ond rhwng 10am a 4pm y caiff fod ar agor ar y Sul! Efallai y bod Genesis 1:5 wedi ei sigo gan dduw cyfalafiaeth ôl-fodernaidd ond does dim symud a'r Genesis 2:2 oblegid 'gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.' Os oedd angen i'r Duw byw orffwys yna gaiff y duw cyfoes a'i demlau extra dros y wlad orffwys hefyd.

No comments: