18.1.08

Pobol y Chyff

Un o'n modern-classics ni fel Cymry Cymraeg heb os oedd y rhaglen deledu Pobol y Chyff. Roeddw ni'n fach iawn pan y darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol a hynny ddiwedd yr wythdegau/ddechrau'r nawdegau ond mae cof plentyn gennai o hyd. Cymaint oedd dylanwad y rhaglen fel ei fod wedi effeithio ar ein geirfa ni feln teulu - er enghriafft mae fy nheulu i'n galw remote control y teledu yn "twiglydd" sef y cyfieithiad Cymraeg a fathodd y Brodyr Frank ar y sioe. Maen gyfieithiad gwych ac maen parhau. Yr rhifyn gyda Dafydd El fel gwestai sy'n sefyll allan i mi - roedd y gan, sef addasiad o My Sweet Lord gan George Harrison, yn wych! Dafydd El yn cael ei bortready fel Budah yn y fideo and the rest - roedd en hollol wych. Buasw ni wrth fy modd os y byddai S4C/Sain yn rhyddhau DVD o'r rhagleni yma - gyda'r Rhys Ifans wrth gwrs yn actor byd enwog nawr gallasai'r gyfres ddwyn sylw rhyngwladol i'r diwylliant Cymraeg. Wedi dweud hynny dwi ddim yn meddwl bydd modd cyfieithu'r hiwmor allan o'i gyd-destun diwylliannol penodol.

Dyma glip sydd ar youtube i'ch hatgoffa o'r gwychder tan bo S4C yn rhyddhau DVD!: