16.2.08

Diwedd y Glymblaid plis

Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid oherwydd dydy pethau ddim yn gweithio allan, ddim o gwbl. Dim papur dyddiol. Dim arian i sefydlu Coleg Ffederal. Beth fydd nesaf? Deddf Iaith di-ddanell maen siwr. Dwi'n meddwl mae'r cam mwyaf doeth fyddai i Blaid Cymru dynnu allan o'r glymblaid cyn gynted a phosib ac eistedd fel gwrthblaid a pharatoi i gicio Llafur mas 'for good' yn yr etholiad nesaf. Dwi ddim yn rhoi'r bai i gyd a'r y Blaid Lafur cofiwch, ddim o gwbl, wedi'r cyfan Gweinidog Plaid Cymru oedd a gofal dros wireddu'r papur dyddiol. Ond rwy'n meddwl y byddai pethau fymryn yn well gyda Phlaid Cymru yn arwain llywodraeth yn hytrach na bod yn gŵn bach.

Llafur-Plaid: the dream is at an end. Mae'r hyn roeddw ni ac eraill wedi ei ofidio wedi digwydd. Rhaid cael gwared o'r Blaid Lafur allan o Lywodraeth Cymru yn llwyr er mwyn gweld gwir newid.

Yn y cyfamser, arwyddwch y ddeiseb yma i alw at Rhodri Glyn Thomas i gadw at ei addewid o sefydlu papur dyddiol.

1 comment:

Hogyn o Rachub said...

Argol! Dw i'n cytuno efo chdi! Er, dw i'm yn meddwl y bydd hyn yn digwydd: wyt ti wir yn gweld Rhodri Glyn a IWJ isio tynnu allan o'r glymblaid? Sdim cyfle iddo ddigwydd, a bydd yn rhaid i unrhyw newid ddod o'r aelodau llawr gwlad, nid o'r arweinyddiaeth.

Sefyllfa truenus iawn ar y cyfan.