22.4.08

Pregethwr yn mynd i hwyl

Dydy chi ddim yn gweld llawer o hyn dyddiau yma, Parch. Wyn Hughes yw'r enw, er yn weinidog yn Eglwys Efengylaidd Saesneg yr Heath Caerdydd maen Gymro Cymraeg ac yn pregethu'n unol a'r traddodiad Methodistaidd Calfinaidd Cymreig, complete with hand movements! Roedd rhaid i mi rannu'r lluniau pan ddois ar eu traws ar Facebook:

WynHughes4

WynHughes3

WynHughes1

WynHughes2

3 comments:

Rhys Wynne said...

"A dyma'r diawl yma'n taro mewn i fi ar Caroline Street, a gwneud i mi dwyllat fy sglods dros y lle i gyd- diawl roeddwn yn flin. Dyma fi'n gafael ei goler (llun 1), ei ysgwyd ychydig (2), ei wasgu'n erbyn y wâl (3) a rhoi left hook a right hook cyflym iddo nes ei fid yn crio am faddeuant. Dyma fi wedyn yn rhoi amersodd odfaoedd Eglwys yr Heath iddo cyn mynd i nol bagied arall o sglods i fi fy hun"

Rhys Llwyd said...

hahahah! Da iawn!

Linda said...

Ha! Dwi ddim yn meddwl faswn i'n syrthio i gysgu wrth wrando ar hwn ;)