31.5.08

Beth oedd 'plan b' Dyddiol Cyf?

Er i Dyddiol Cyf. gyhoeddi yn fuan iawn, wedi cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas mae dim ond £200,000 ychwanegol byddai ar gael i ddatblygu'r wasg Gymraeg, fod y cynlluniau am bapur dyddiol wedi eu rhoi o'r neilltu fe wnaeth tîm Dyddiol Cyf roi 'plan b' at ei gilydd a gwneud cas am yr arian y gwaneth Golwg ennill yn y diwedd. Roeddw ni wedi bod yn ceisio dyfalu beth oedd 'plan b' ers tro - pan oeddw ni yn gweithio iddyn nhw nid oedd neb, wrth reswm, yn trafod 'plan b' oherwydd nid oeddem ni'n meddwl y byddai Gweinidog, o Blaid Cymru o phob plaid, yn torri ei addewid o ddarparu moddion ariannol i sefydlu papur dyddiol.

Ar eu blog ddoe fe ddatgelodd Dyddiol Cyf beth oedd eu 'plan b' aflwyddiannus, dywedant:

Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod - cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion dyddiol.


O ran pam y bu eu cais yn aflwyddianus:

Rydym yn deall bod y panel wedi bod yn gefnogol iawn i amcanion ein cais ond yn gweld bod gormod o risg i arian cyhoeddus pe na fuaswn yn cyrraedd y ffigurau hysbysebu rhagdybiedig. Does yr un fenter heb ei risg heblaw ei fod yn gynllun sy’n gwbl ddibynnol ar grant, ac yr oedd ein hasesiad ni o’r risg yn wahanol i asesiad y panel. Roedd ein hamcangyfrifon o incwm hysbysebu wedi’u paratoi gan arbenigwr allanol a hefyd aelod o’r Bwrdd oedd - y naill a’r llall - yn brofiadol iawn yn y maes fel y gwelwch o’r naratif amgaeedig.


Dwi ddim cweit yn sicr o'r ffeithiau ond mae'r awgrym nesaf ar eu blog yn awgrymu mae papur am-ddim byddai'r papur wythnosol yma, byddai hynny yn sicr yn esbonio sut y bydde nhw yn cyrraedd cylchrediad o 25,000 sydd yn aruthrol fwy nag unrhyw gylchrediad Cymraeg ar hyn o bryd:

Mawr obeithiwn y bydd cynllun Golwg, pan ddaw’r manylion yn glir, yn cynnig y cam sylweddol ymlaen i’r wasg Gymraeg y byddai papur dyddiol neu wythnosolyn-am-ddim wedi’i wneud.


Hir oes i'r BYD.

2 comments:

Huw said...

Oeddwn i'n ei weld yn gynllun busnes ddiffygiol ers y cychwyn. Y rheswm am hyn yw fod Y Byd wedi rhoi derbyniad o bres cyhoeddus yn eu model busnes.

Os yw'r bapur yma am lwyddo'n gyfangwbwl yna dylid allu ddibynnu ar arian preifat yn unig. Mae Cymru fel yn dibynnu'n ormodol ar bres cyhoeddus yn barod.

Gwell fydd sefydlu rhywbeth annibynnol na all gael ei ymosod gan y gerth-Gymraeg oherwydd ei fod yn llyncu mwy o bres.

Dylai cronfa'r Byd cael ei gadw, a phres dal cael ei ychwanegu ato tan fydd digon o bres i wireddu'r freuddwyd. Dyle ni ddim rhoi fyny.

Rhys Llwyd said...

Er fod y ddelfryd o fod yn gwbl annibynol o unrhyw bres cyhoeddus yn un da mewn realiti ni fydd hyn byth yn posib. Mae'r papurau lleiafrifol mwyaf llwyddianus fel Egun Karia (sori am y sillafiad diffygiol fan yna) yng Ngwlad y Basg sydd a chylchrediad o 18,000 o ddyddiol yn parhau i fod yn ddibynnol ar beth arian cyhoeddus.

Cynllun Y BYD oedd gobeithio am arian cyhoeddus i ariannu yr atodiadau byddai'n cadw integreti y prif bapur newyddion - cyfaddawd maen siwr yw hyn rhwng y ddelfryd a realiti byw a bod y byd lleiafrifol.

Roedd angen tua £600,000 o bres cyhoeddus ychwanegol bob blwyddyn i gynnal y fenter (ar ben pres hysbysebion) - roedd hi'n dipyn o dasg dennu £300,000 o fuddsoddiadau 'one off' heb son am geisio codi £600,000 y flwyddyn - ni fydd menter fel hon byth yn bosib yn gwbl breifat yn anffodus.

Nid yw papurau Llundain, Times, Independent etc... yn llwyddo i dorri costau hyd yn oed ac yn hytrach yn cael ei gynnal drwy sybsydei y mae'r cwmniau yn gwneud allan o'r elw y maen nhw'n gwneud gyda'i mentrau eraill, cylchgronau porn etc....

Os nad yw y Times a'r Indy felly yn medru cynnal eu hunain does dim gobaith caneri i papur Cymraeg byth wneud yn anffodus.