Etholiadau Lleol - I (Ceredigion)
Mae'r canlyniadau yn dechrau dod trwyddo bore ma a'r si mawr ar hyn o bryd yw fod Dafydd Iwan a Richard Pari Huws wedi colli eu seddau i Llais Gwynedd! Mi fydd hyn yn ergyd sylweddol i Blaid Cymru. Ond dwi am sylwebu am Geredigion yn gyntaf gan fod gyda ni set o ganlyniadau llawn. Esgusodwch yr arddull ysgrifennu ychydig bach mwy tafodiaethol na'r arfer, mae hyn er mwyn postio yn sydyn!
Ceredigion
Annibynol: 11
Dem-Rhydd: 10
Plaid Cymru: 19
Llafur: 1
Arall: 1

Yn fy ward i er enghriafft yn Waunfawr-Comins Coch roedd yr ymgeisydd Plaid Cymru wedi magu ei blant mewn addysg Saesneg a di bod trwy Penglais tra fod yr ymgeisydd Lib Dem wedi magu ei blant yn Gymry ac wedi bod a nhw drwy Benweddig. Y Lib-Dems aeth a hi oherwydd diwedd dydd roedd hi'n amhosib i bobl fel fy rhieni fynd rownd yn canfasio dros ymgeisydd mor mor amhriodol. Gyda ymgeisydd ffresh byddai wedi bod modd ennill Waunfawr-Comins ac os byddau Penri wedi ennill hefyd byddai Plaid mewn... ac yna yn dechrau cau ysgolion bach Ceredigion...
Canlyniadau llanw Ceredigion
No comments:
Post a Comment