2.6.08

Bias y BBC ac academi ryfel newydd i'r Fali, Môn

Er i Taro'r Post ar Radio Cymru amser cinio roi tegwch i ddwy ochr y ddadl am ddatblygu academi i beilotiaid "gwerth canoedd o filiynau o bynoedd" yn Y Fali, Môn mae'r stori fel ag y mae ar wefan y BBC ac hefyd ar y penawdau newyddion yn dangos bias llwyr tuag at Filwriaeth Prydain.

Ar un golwg, ac un golwg yn unig y mae'r buddsoddiad yma yn newyddion da. Gwnaiff fe wnaiff ddod a swyddi ond nunelle yn yr adroddiad ar wefan y BBC y mae'r gohebydd yn gwneud ymdrech i esbonio mae dod a swyddi ynghlym a pheiriant rhyfel Prydain y mae'r datblygiad yma. Ydy'r BBC yn awgrymu bod pob swydd yn swydd dda de facto? Fel y dywedodd Guto Prys ap Gwynfor yn graff unwaith: mae Puteindra a'r diwydiant rhyw yn dod a gwaith i ardaloedd ond dydy hynny ddim yn golygu fod y gwaith a'r diwydiant yn iachusol ac wedi ei gyfiawnhau. Yn yr un modd, er y bydd y datblygiad milwrol yma yn dod a gwaith i Fôn maen waith sy'n ymwneud, yn y diwedd, a hyfforddi peilotiaid i fomio mewn rhyfeloedd.

Heddiw, wrth adrodd yr hanes yma mae'r BBC wedi syrthio i'r fagl o fod yn beiriant propaganda un-ochrog yn ceisio "gwerthu" peirint rhyfel Prydain i bobl Môn a'u dallu gyda geiriau fel "buddsoddiad sylweddol" a "diwedd a'r broblem diwethdra ym Môn".

Ond na, ni thwyllir y Cymry.

Dyma fideo 'chilling' ys dywed y Sais:

No comments: