26.7.08

Gwaith a Hamdden

Dwi wedi bod yn gweithio fel lladd nadroedd dros y ddau ddiwrnod diwetha ma yn recordio traciau newydd gyda Cynan. Mi fyddw chi yn falch o glywed nad ydy Kenavo yn gwneud "come back" ond yn hytrach dwi a Cynan wedi bod yn gweithio ar brosiect newydd, dwi ddim am ddatgelu mwy am nawr ond sylwch mae gweithio ar brosiect newydd ydym ni nid ar fand newydd!

A beth yw'r llun uchod medde chi? Wel dyna lun prin iawn iawn iawn, maen lun o gyfrifiadur Apple Mac yn crashio! Dwi wedi bod yn defnyddio Apple Mac ers tair mlynedd nawr a dim ond dwy waith dwi wedi gweld y
sgrin hon. Ond charae teg i'r Mac mae e wedi bod yn gweithio'n galetach na neb dros y dyddiau diwethaf yn rhedeg yb agos i 24 trac o sain ar Logic yn o gystal a gwneud jobsys dylunio am yn ail yn Photoshop ac InDesing. Profodd y gwaith yn ormod iddo heno.

Ond beth yn union yw'r diffiniad o waith a hamdden? Rwy'n gweld y linell rhwng y ddau beth yn anelwig iawn ond efallai bod hynny oherwydd mod i'n ddigon ffodus i gael mwynhau fy ngwaith bob dydd. Dwi wrth fy mods yn ymchwilio i fywyd a gwaith R. Tudur Jone a dwi wrth fy modd yn "diwinydda", er mod i'n cael dy nhalu i wneud y gwaith ymchwil dwi bron yn ei weld fel hamddena (ond cawn weld beth fydd fy hanes blwyddyn i nawr pan fydd fy mhen i lawr yn gweithio ar y traethawd terfynol!).

Yn yr un modd pan yn gwneud fy ngwaith dylunio rwy wrth fy modd yn cael fidlan ar y Mac, profi ffontiau newydd allan, gosod lluniau at ei gilydd a dwi'n cael fy nhalu am wneud y gwaith. Beth felly yw gwaith
gwaith, gwaith sy ddim yn hamdden? Wel yn syml, gwaith sy'n rhaid i chi wneud i oroesi.

Oedais, oerais a gwrido.

Dydw i ddim yn gwybod fy ngeni.

No comments: