6.7.08

Yr Anglicaniaid ac ordeinio Merchaid yn Esgobion: Duw sydd ar gair olaf.

Maen ddiwrnod mawr i'r Eglwys Anglicanaidd fory gan fod y Synod yn Efrog yn pleidleisio ar y mater o dderbyn merched fel Esgobion. Ni welaf i urnhyw broblem gyda chael Merched ochr yn ochr a dynion yn arwain yr Eglwys - mae'r ddau ryw yn hafael ac mae angen y ddau ryw. Maen gywir i nodi fod gwahanol bobl yn cael eu galw i wahanol rôls o fewn yr Eglwys ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o'r rheidrwydd yn golygu fod y split yn digwydd ar linellau rhyw oherwydd fe geir dynion llipa a fyddai'n gwneud arweinyddion ofnadwy ond efallai yn gaffeiliadau yn gwneud tasgau eraill tra ar y llaw arall mae yna ferchaid sy'n arweinwyr naturiol ac yn haeddu'r hawl i ymarfer y rôl yna o fewn yr Eglwys a hynny er lles gwaith y Deyrnas.

Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys am hyn yn ddiweddar ac er mod i'n deall fod yna beth dadl yn y Beibl na ddylai Merchaid arwain mewn rhai sefyllfaoedd, rwy'n credu mae cyfeirio at rai sefyllfaoedd yn unig y mae hynny. Ar y cyfan mae hanes yr Eglwys fore yn dangos fod merched wedi chwarae rôl bwysig yn arwain dan eneiniad yr Ysbryd Glan. Dyma rai enghreifftiau:

Phoebe yn Rhufeiniaid 16:1-2
"Dim ond pethau da sydd gen i i’w dweud am Phoebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. 2 Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy’n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi."

Prisca ynghŷd a Acwila yn Rhufeiniaid 16:3-5, 19
"Cofiwch fi at Prisca ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu. Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd! 
5 Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw... Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi’n ufudd i’r Arglwydd, a dw i’n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg."

Jwnia yn Rhufeiniaid 16:7
"Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw’n credu yn y Meseia o'm blaen i."

Nymffa yn Colosiaid 3:15
"Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi. "

Euodia a Syntyche yn Philipiaid 4:2-3
"Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd."

Merched Philip yn Actau 21:8-9
"A’r diwrnod wedyn dyma ni’n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o’r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i’r gweddwon). Roedd gan Philip bedair o ferched di-briod oedd yn proffwydo."

Ac yn olaf y cryfaf sef y dweud amlwg fod angen i Ferched sefyll ochr yn ochr a bechgyn wrth arwain yr Eglwys yn y dyddiau olaf, ac maen debyg ein bod ni YN byw yn y dyddiau olaf yn awr:

Merched a dynion yn proffwydo yn Actau 2:17-18
"'Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
 Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. 
Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, 
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, 
a dynion hŷn yn cael breuddwydion. 
Bryd hynny bydda i'n 
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, 
yn ddynion a merched, 
a byddan nhw’n proffwydo."

I ddyfynnu cyfaill tra ffwdamentalaidd ei ddiwinyddiaeth ar un wedd sydd wedi profi drosto ef ei hun fod Duw yn defnyddio merched i arwain yr Eglwys: "I have seen women of God who have prayed for demon-possessed individuals to be delivered. Healing has taken place in the lives of individuals through women ministry. If God does not approve their ministry, I don't think He would even give them the grace to function effectively." A dyna fy nghyfaill wedi taro'r hoelen ar ei phen - Duw ac nid sefydliadau crefyddol dynol sy'n dewis defnyddio neu beidio defnyddio merchaid ac mae Duw yn sicr yn ac am ddefnyddio merchaid - ni all wneud hebddyn nhw. Dwi ddim yn siwr beth fyddai gan Dr. Tudur i ddweud am hyn ond o ddyfynnu un o'i atebion aml i gwestiynnau dwys: "Duw sydd a'r gair olaf."

2 comments:

Philoctetes said...

O ran diddordeb mae Paul yn disgrifio Jwnia yn Rhufeiniaid 16:7 fel apostol. Gan bod yr eglwys yn dysgu bod yr esgobion yn olynwyr i'r apostolion mae'n sefyll i reswm na ddylid cyfyngu swydd esgob i ddynion yn unig.

Steffan said...

(Sori fod hwn mor hir - ond do'n i ddim eisiau cam-arwain trwy geisio gwneud pethau'n fyrrach!)

Yn ddigon rhyfedd, roedd Origen (nid fy mod i'n fan ohono!) a Epiphanius o'r 3ydd ganrif yn ystyried Junia i fod yn ddyn. Mae'r enw yn y Groeg, sef "Iounian", yn medru bod yn enw gwr neu wraig (fel Pat neu Lindsay). Hefyd, mae ansicrwydd am y cyfieithiad - yn ol rhai, gall olygu "well known TO the apostles" yn hytrach na "well known AMONG the apostles."

Felly, dwi ddim yn siwr mor addas yw defnyddio Junia fel enghraifft effeithiol.

Mae'r enghreifftiau eraill yn wan hefyd. Ond cyn hynny, rhai pwyntiau.

(i) Nid yw hon yn ddadl ganolog - bydd pobl yn y nefoedd a dderbyniodd y naill ochr a'r llall tra ar ddaear (bydd dim angen henuriaid yn y nefoedd!). Mae awdurdod y Gair yn ddadl ganolog fodd bynnag, a dylwn wastad chwilio ein calonnau - ai'r Beibl sy'n arwain fy meddwl, neu ddiwylliant a chwaeth bersonol?? Ond mae Cristnogion diffuant, sy'n derbyn y Beibl fel Gair perffaith Duw, wedi dadlau ac wedi cytuno i anghytuno ar y pwnc. Mae angen caru ein gilydd, a chofio egwyddorion Rhuf.14. Yr un pryd, mae'n hanfodol ein bod o ddifri'n ystyried y Beibl cyn dod i benderfyniad. Mae gwneud unrhywbeth arall yn dyrchafu meddwl dyn dros Dduw - ac os gwnewn ni hynny, ry man i ni gau'r holl eglwysi nawr!

(ii) Mae'r Beibl yn dangos yn glir fod dyn a menyw yn gyfartal yng ngolwg Crist. Crewyd dyn a menyw ar lin a delw Duw. Ac mae Paul yn dweud "nad oes Iddew na Roegwr, gwryw na benyw . . yng Nghrist". Maent oll yn blant i Dduw, yn Iesu. Mae "male-chauvinism" yn hagr, anfeiblaidd ac annuwiol.

(iii) Mae'r Beibl yn dangos yn glir fod gan wragedd waith pwysig a hanfodol - fel mae enghreifftiau Rhys yn dangos. Cefnogi, annog, dysgu ar lefel anffurfiol (fel Prisca), agor eu cartref (fel Nymffa), a hefyd, ymhlith eraill, gweddio, dysgu plant a gwragedd (pwynt bach profoclyd - ai yw'n bachanu gwragedd a phlant i ddweud nad yw gweinidogaeth menyw yn ddigonol os nad yw'n dysgu dynion??!!).
Mae gwaith Duw yn holl-gynhwysol - mae dysgu mewn ysgol, neu weithio mewn ffatri, i weddio, i efengylu, i wneud gwaith gweinyddol o fewn eglwys, arwain gwaith pobl ifanc, i fagu plant a bod yn wraig I GYD yn waith Duw. Lle fyddai'r eglwys heb fenywod yn cyflawni'r gweinidogaethau yma? Dylwn gywilyddio os oes gwragedd (neu ddynion) yn ein heglwysi nad ydynt yn cael eu defnyddio.

(iv) Mae'n bwysig cofio nad yw arweinyddiaeth eglwys fel arweinyddiaeth, dyweder, gwleiyddol. Does dim hierarchiaeth. Rol penodol yw bod yn henuriad/ esgob (whatever!) - nid yw'r gwaith yn fwy teilwng na phwysig nag unrhyw waith arall o fewn yr eglwys. Mae'n gyfrifoldeb mawr, a dylwn weddio dros yr arweinwyr. Byddant yn atebol ar Ddydd y Farn am eu gwaith. Ond nid ydynt yn bobl ar lefel uwch. Mae rhai pobl yn son am fod yn weinidog neu esgob fel rhyw fath o nirvana galwedigaethol!! Ffolineb anfeiblaidd yw hyn.

(v) Mae perthynas Adda ac Efa yn bwysig iawn, ac yn sylfaen i arweinyddiaeth eglwys a phriodas. (mae Paul yn cydnabod hyn yn 1 Tim 2). Roedd y ddau'n gyfartal - Genesis 1 - ond mae'n amlwg fod gan y ddau roles gwahanol. Adda oedd i arwain. Mae Rhufeiniaid yn cyfeirio at "bechod Adda" - er, yn dechnegol, Efa oedd gyntaf. Pam? Ef oedd pen y teulu (Effesiaid 5). Ond gwae'r gwr os yw'n meddwl ei fod yn uwch-radd i'r wraig.

(iv) Sail hwn yw perthynas y Drindod - mae cyfartalrwydd perffaith, ond eto mae roles gwahanol o fewn y Drindod. Y Tad sy'n trefnu, ac yn ordeinio. Y Mab sy'n cyflawni, a'r Ysbryd Glan yn gwneud y gwaith yn effeithiol. A yw'r roles yma'n golygu fod Iesu'n is-raddol i'r Tad, neu'r Ysbryd Glan yn is-raddol? A yw Iesu'n cwyno mai'r Tad yn unig sy'n gwybod y dyddiad pan ddaw'r cyfan i ben? Na, cabledd fydde dweud y pethe ma.

(v) Mae Rhys yn son am ddynion llipa - wel, mae'r Beibl yn dweud na ddyle nhw chwaith fod yn arweinwyr eglwys, neu ddysgu. Mae 1 Tim.3 a Titus 2 yn dangos bod pob math o bwyntiau i'r criteria - nid jyst ei fod yn ddyn. Rwy wedi siarad a lot o ferched sy'n dweud eu bod eisiau arwain am fod y bois mor llipa. Cywilydd arno ni sy'n ddynion, neu'n fwy addas "bois". Mae hwnna jyst yn rhoi mwy o gyfrifoldeb arno ni fel dynion i sorto'n hunan mas!!

Rhys - sut fyddet yn ymateb i'r pwyntiau uchod? A beth am 1 Timotheus 2:12 sy'n glir iawn (mae'n bwysig sylwi taw Adda ac Efa yw sail ei ddadl - nid dadl mewn cyd-destun diwylliannol yw e), a hefyd yr adnodau hynny yn 1 Tim.3 a Titus 2. Mae'r ffaith fod y 12 disgybl yn ddynion "speaks volumes" hefyd.

Ond beth am enghreifftiau a roddes ti?

I ddweud y gwir - a ydyn nhw wir yn profi unrhyw beth un ffordd neu'r llall? Hyd y gwela i, maent yn dangos sawl peth cadarnhaol, ond nid ydynt yn gwarantu menywod yn henuriaid.

- Mae gan fenywod gyfraniad mawr a phwysig i wneud.

(a) Phoebe yn Rhufeiniaid 16:1-2
- mae'n "gwasanaethu" ac yn "gefn" i Paul. Yn yr NIV, "help to many"

(b) Euodia a Syntyche yn Philipiaid 4:2-3 - maent yn "gydweithwyr".

Dim son am awdurdod Phoebe, Euodia neu Syntyche fel arweinwyr, neu eu gwaith dysgu.

- Mae'n iawn cynnal cyfarfodydd mewn tai gwragedd - e.e. Nymffa yn Colosiaid 3:15 - ond mae dweud bod y gwragedd yma'n arwain y gwaith yn mynd cam tu hwnt i'r hyn mae'r Beibl yn dweud. Gallai feddwl am enghreifftiau tebyg i Nymffra hyd yn oed yn Aber!

- Mae proffwydo'n wahanol iawn i bregethu/ cael rol awdurdodol

Odyn, mae merched Philip yn proffwydo yn Actau 21:8-9, ac mae 1 Cor.11:5 yn dangos fod hyn yn gymwys hefyd. Ond beth am 1 Cor. 14:34? - pan mae'n dod i bwyso a mesur y geiriau proffwydol (sef rol mwy awdurdodol, mwy fel athro), rhaid i'r gwragedd aros yn dawel.

Sy'n ein gadael ni a Phrisca. Yn Rhuf. 16:3-5, cawn wybod ei bod yn gweithio gyda Paul. Eto, dyw hyn ddim yn dweud dim am ddadl arweinyddiaeth. Mae ei henw gyntaf, a yw hyn yn arwyddocaol? - ddim o reidrwydd. Eto, dyw hyn ddim yn dweud llawer.

Ond beth am Actau 18:26? Dyma adnod sydd i'w weld yn cefnogi dadl y rhyddfrydwyr. Mae hi a'i gwr yn dysgu Apollos.
Ond mae hyn ar lefel gwbl bersonol, anffurfiol, anwyddogol - a fel cwpwl. Weithiau, mae pobl yn dod i'n ty, ac mae fy ngwraig a fi'n siarad a nhw. Mae Cath yn ddoeth ac yn gwybod ei Beibl. Mae esiampl Prica yn dangos ei bod yn iawn i Cath siarad a rhannu, a "dysgu" (er, mae annog a rhannu siwr o fod yn ddehongliad mwy cywir). Rwy wedi dysgu llawer o gymdeithasu gyda merched a gwragedd hyn (mae arweinydd fy nhim yn fenyw wedi'r cyfan!!). Mae hyn - a'r hyn oedd Prisca'n gwneud - yn bell iawn o'r hyn a sonir amdano yn 1 Tim.3 a Titus 2

Yn bersonol, mae'r ddadl "rhyddfrydol" yn wan, ac yn pwyso ar set o adnodau amhwys a hyd yn oed amherthnasol. Mae'r farn hanesyddol, draddodiadol, i mi, yn ymddangos yn fwy clir yn y Beibl. Gai awgrymu llyfr Wayne Grudem a John Piper - "Evangelical Feminism and Biblical Truth" os wyt ti eisiau darllen mwy am y peth. Clamp o lyfr, ond mae'n ystyried pob adnod perthnasol.