Wedi dwy noson yng Nghaerdydd dwi wedi dianc yn ôl i'r Fro yn barod am seibiant (mi fydda i'n dychwelyd i'r steddfod fory cofiwch). Nol yn Llanddarog fe'm syfrdanwyd i weld fod Tom Livingston yn y Western Mail yn dyfynnu fy mlog, dyma maen dweud:
Not everyone is a fan of this mini-Glastonbury [maes b] exising in pararell to the main Eisteddfod, though. Las year Welsh blogger Rhys Llwyd complained of the Eisteddfod's “dark secret” - the huge amount of booze consumed on Maes B.
“After the carnage of Maes B my conscience told me I had to say something,” he wrote. “I'm not against drinking, just be sensible and do it in moderation.
”
Chwarae teg i Tom, maen fy nyfynnu yn ei gyd-destun yn gywir er fe ddylwn ychwanegu
mod i yn ffan o wyliau cerddorol ac mae dim ond y diwylliant yfed yn dwll a chyffuriau sy'n cyd-fynd ag ef yr ydw i'n anghyfforddus ag ef.

Ond erthygl llawer mwy difyr yn y Western Mail ddoe oedd un yn sôn am y dadlau rhwng yr Anglicaniaid “ceidwadol” a “rhyddfrydol.” Pen-bandit y garfan geidwadol ydy
Henry Orombi, Archesgob Uganda. Wrth wylio rhaglen ddogfen am yr ymryson bythefnos yn ôl fe sylwais am y tro cyntaf difrifoldeb y rhwyg yn yr eglwys Anglicanaidd. Arwynebol yn unig yw'r ddau
issue o ordeinio menywod ac ordeinio pobl sy'n ymarfer rhyw gwrywgydiol oblegid y broblem waelodol sydd tu ôl y dadlau diweddar yw democratiaeth, hynny yw diffyg, o fewn yr Eglwys Anglicanaidd. Eglwys Loegr yw pen-eglwys y gymuned Anglicanaidd ac felly Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yw arweinydd
de facto y gymuned Anglicanaidd yn rhyngwladol. Yn hanesyddol gellid deall pam – honno oedd y fam eglwys a honno anfonodd genhadon i sefydlu esgobaethau Anglicanaidd dros y byd, yn arbennig yn Affrica. Ond bellach mae Eglwys Loegr ar drai difrifol tra bod yr Eglwys Anglicanaidd yn Affrica yn gweld diwygiadau nerthol gyda miloedd ar filoedd yn dod i gredu ac eglwysi newydd yn agor ym mhob tref. Er enghraifft mae 25% o Anglicaniaid y byd yn byw yn Nigeria yn unig! Gan mai pobl yw eglwys ac nid adeiladau na sefydliadau fe ddylai canolbwynt a phencadlys yr Anglicaniaid bellach fod yn Affrica ac nid yn Lloegr a Chaergaint. Fodd bynnag gan fod yr Eglwys Anglicanaidd yn eglwys an-nemocrataidd mae'r Eglwys yn Lloegr yn gwrthod ildio a symud pen yr Eglwys at drwch ei haelodau yn Affrica.

Yn y Western Mail mae Henry Ormbi, Archesgob Uganda, yn cyfeirio at y diffyg democratiaeth yma o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yn “a remnant of British colonialism.” Mae'r Archesgob Ormbi wrth gwrs yn llygad ei le – mae'r “hawl ddwyfol” yma mae Eglwys Loegr ac Archesgobaeth Caergaint yn hawlio dros holl Anglicaniaid y byd yn sylfaenol ang-Nghristnogol. Fe â Ormbi ymlaen i ddweud: “Even the Pope is elected by his peers. But what the Anglicans have is a man appointed by a secular government.”
Nid yw Henry Ormbi a'i gyd Anglicaniaid “ceidwadol” heb ei bai chwaith – er enghraifft maen nhw'n cefnogi “state-sponsored persecution of lesbians and gay men.” Dwi ddim yn meddwl fod lle i ddefnyddio deddfau gwlad i orfodi gwerthoedd Cristnogol ar bobl – mae hynny hefyd yn anghristnogol oherwydd mae Iesu sy'n newid calonnau pobl ac nid deddfau gwlad.
Rwy'n eithriadol o falch o'n traddodiad annibynnol anghydffurfiol ni yng Nghymru ac mae'r holl
hw ha yma yn profi o'r newydd nad ydy model hierarchaidd yr eglwys Anglicanaidd yn abl i genhadu i'n cymdeithas ni heddiw. Mae'r ceidwadwyr oddi mewn iddi, lle mae fy nghydymdeimlad i yn syrthio, ddim wedi deall yr angen i ddangos cariad a gras tuag at bobl sy'n sylfaenol anghywir ac mae'r rhyddfrydwyr yn eu hymgais i ddenu a charu wedi cyfaddawdu ar y gwirionedd.
Mae angen
synthesis newydd. Mae angen bod yn driw i wirionedd a chariad Crist.
No comments:
Post a Comment