Showing posts with label Y we. Show all posts
Showing posts with label Y we. Show all posts

12.5.08

Wyt ti'n defnyddio Zattoo? teledu byw am ddim ar y we

Ers rhai wythnosau nawr dwi wedi bod yn defnyddio Zattoo sef gwasanaeth teledu byw ar y we. Maen wasanaeth rhad ac am ddim ac maen gwbl gyfreithiol. Yr unig anfantais yw fod ansawdd y darllediad ddim yn dod yn agos i ansawdd digidol neu deledu lloeren eto ond maen debyg nad oes gan y rhan fwyaf o bobl gysylltiad bandllydan ddigon sydyn i ddelio gyda ansawdd uwch ar hyn o bryd beth bynnag.

Mae'r gwasanaeth hwn yn un arloesol oherwydd fod gyda mi bellach yn fy fflat fynediad i sianeli digidol fel BBC Three a News 24 er fod fy nheledu confensiynol wedi methu pigo fynny signal analog da heb son am ddigidol (er mod i'n byw hanner canllath, yn llythrennol, o un o brif ganolfannau darlledu BBC Cymru!).

Ymysg y sianeli sydd ar Zattoo ar hyn o bryd mae BBC1,BBC2, BBC2 Wales (+London, Scotland etc...), ITV, HTV Wales, Channel 4, Five, BBC Three, BBC Four, BBC News 24, BBC Parliament ac S4C. Ac yn ôl y bobl sydd tu ôl Zattoo maen nhw yn y broses o ddenu rhai sianeli mawr eraill i'r gwasanaeth.

Defnyddiwch Zattoo heddiw - y gyfrinach i lesteirio eich llif gwaith!

8.3.08

Pigion o'r We 7/3/08

Mae llawer o flogwyr yn gwneud defnydd mawr o'i blogiau i rannu doleni i'r gwefanau diddorol y maen nhw wedi bod yn syrffio yn ddiweddar. Felly dyma son am ddau wefan ddifyr dwi'n ymweld a hwy yn aml y dyddiau yma.

Yn gyntaf, Blog "DOT.Life" y BBC sef blog gohebwyr technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones a Darren Waters. Mae pobl sydd yn fy adnabod yn dda yn gwybod nad ydw i'n sterioteip o'r fath o berson sy'n ymddiddori â diwinyddiaeth a hanes yr Eglwys ac rwy yr un mor hoff o gadjects a thechnoleg fodern ac ydw i o gyfrolau Methodistiaid y Bedwaredd Ganrif a'r Bymtheg! Fel y bydde chi'n disgwyl gan ohebwyr technoleg maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ar-lein diweddaraf ar y blog megis darlledu byw drwy ddefnyddio video-phone yn y postiad yma.

Yr ail wefan yw TV-Links, dim byd newydd meddech chi; wel newydd mewn ffordd. Roedd llawer yn defnyddio tv-links.co.uk tan iddo gael ei gau i lawr gan yr awdurdodau yn ddiweddar. Bellach mae wedi ail ymddangos fel tv-links.cc! Wythnos yma dwi wedi bod yn gwylio'r gyfres Lost ar y wefan - hwyl a spri.