23.1.05

Arholiad a thriniaeth y 'special needs'!

Arholiad anodd iawn


Dyma ddiwrnod diddorol a dweud y lleiaf. Bore yma cefais fy ail arholiad, Damcaniaethau Gwleidyddol. Roedd yr arholiad yma gwerth 100% o'r modiwl, doedd dim traethawd o gwbl yn cyfri, 100% mewn tair awr - digon i godi braw ar unrhyw un.


Yn sicr fe gododd y ffactor 100% fraw arna innau. Ond wedi i mi eistedd i lawr ac edrych ar y cwestiynau dyna pan drodd y braw i mewn i arch-fraw os oes yna fath air. Dwi'n reit sicr mae dyma'r arholiad anoddaf i mi ei eistedd erioed (heblaw am yr un tablau yn Safon 1).


Modiwl ydoedd yn trafod syniadau yr athronwyr clasurol, Hobbes, Plato ac Awstin ymhlith eraill. Dwi wedi mwynhau'r modiwl yn fawr, dysgu am yr athronwyr yma dy chi wedi clywed eu henw ac yn gwybod fod nhw'n ddylanwad pwysig ar y gwareiddiad gorllewinol ond does dim syniad gyda chi pam na sut. Ar ôl dilyn y modiwl yma mae chydig mwy o ddealltwriaeth gennyf amdanynt.


Ysywaeth yn ôl at yr arholiad. Er mod i wedi astudio llawer ac yn gweld y gwaith yn ddiddorol y broblem gyda'r arholiad oedd bod y cwestiynau yn gofyn pethau penodol iawn, doedden nhw ddim yn rhai agored o gwbl. Er enghraifft yn lle cael cwestiynau fel “Cymharwch syniadau Burke a Hobbes” roedd rhaid i mi ateb “Cymharwch syniadau Burke a Hobbes ar yr amddiffyniad o'r drefn sydd ohoni.”. Ond fe driesi fy ngorau glas felly cawn weld. Cysur oedd clywed fod eraill wedi gweld yr arholiad yn anoddach na mi hyd yn oed.


Roedd yr arholiad draw yn Llanbadarn, ddim yn bell iawn i gerdded nôl i Bantycelyn ond wrth i mi gerdded allan o'r adeilad dechreuodd hi fwrw a hynny'n drwm felly penderfynais ddal bws. Wrth i mi eistedd yn yr arhosfa bws, ie yn disgwyl am fws credwch neu beidio, ymddangosodd yna gar. Maldwyn Price, blaenor yng Nghapel Seion (Annibynwyr) rwyf yn mynychu ar nos Sul pan yn coleg oedd yna yn cynnig lifft i mi. Grêt! Ddim yn gorfod cerdded a ddim yn gorfod dal bws! Newydd fod mewn cyfarfod meddalwedd Cod Agored Cymraeg ydoedd gyda Ned Thomas ac eraill, datgelodd y newyddion da fod y fersiwn nesaf o Open Office Cymraeg bron a bod yn barod!


Darparu i'r 'special needs'


Un peth am gythruddodd i heddiw oedd y modd israddol ag an-sensatif yr ymdriniwyd ar myfyrwyr ag anghenion arbennig yn yr arholiad. Yr arfer ydy mynd ir un lle a phawb arall ac yna cael mynd drws nesaf i ystafell dawelach i wneud yr arholiad, fel person a dyslecsia sy'n cael y fraint yma gallaf dystio fod hyn yn llawer o gymorth. Serch hynny nid drws nesaf oedd yr ystafell bore ma’ ond mewn adeilad cwbwl gwahanol. Does dim byd yn bod ar hyn, ond ni roddwyd gwybod i ni o flaen llawn. Felly dyna ni'r 'special needs' fel yn gelwir ni yna yn gynnar er mwyn cael digon o amser i ddod dros y nerfusrwydd a dal eich anadl, mynd i'r lle chwech ayyb... Dau funud cyn i'r arholiad ddechrau mae'r drysau yn cael eu hagor i ni gael mynd at ein desgiau.


Gofynnais ble mae'r lle 'special needs' ac fe atebodd y porthor “ooo your in another building”. Felly dyna fi'n rhuthro, 2 funud i fynd (er mod i wedi bod yn y lle y cyfarwyddwyd i mi fynd yn aros ers 20 munud!) rhedeg i'r adeilad arall fyny i'r trydydd llawr a chyrraedd yr ystafell mewn amser. Tu ôl i mi roedd yna fyfyriwr oedd, tybiaf a phroblemau dysgu tra mwy dwys na fy rhai innau allan o wynt ac yn beichio crio.


Roeddwn yn gandryll, ac yn crio yn fy nghalon dros y myfyriwr yma oedd yn amlwg yn gweld y drefn arholi yn anodd ta-beth heb son am orfod cael ei ruthro o un lle i'r llall ar y funud olaf. Yn ystod yr arholiad ei hun fe dorrodd allan i grio ar ddau achlysur - dyna'r driniaeth mae myfyrwyr a 'problemau' yn ei gael gan y brifysgol. “Croeso i chi gael ystafell 'special needs' ond peidiwch disgwyl i ni ddweud wrthych ble ma’ hi a pheidiwch disgwyl i ni fynd i'r drafferth o roi posteri fyny yn dangos y ffordd - dy chi'n griw rhy fach i fod o bwys”


Ddim wedi gwneud llawer o waith adolygu prynhawn yma a heno, er bod gyda mi arholiad arall fore Llun, yr olaf diolch byth. Wedi blino, nos da.

No comments: