22.1.05

Datganoli mewn arholiad ac ar y newyddion

Ces i fy arholiad cyntaf bore ma’. 'Cymru a Datganoli' - aeth hi'n reit dda, cwestiynau teg oeddwn i'n meddwl. Diddorol oedd gwrando ar y Post Cyntaf cyn mynd i'r arholiad oherwydd roedd ffrae'r Ceidwadwyr am ddyfodol datganoli ar y rhaglen. Profodd yr eitem i fod yn ddefnyddiol iawn yn yr arholiad!


Mae ysgrifennydd Cymreig y Torïaid wedi cyhoeddi pe bai refferendwm i'w chynnal ar ddyfodol datganoli y byddai ef yn ffafrio diddymu'r cynulliad yn llwyr. Felly pwy yn union ydy'r gŵr dan sylw?


Enw llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig ydy Bill Wiggins dyma ddyfyniad oddi ar wefan y Ceidwadwyr yn son amdano:


“Bill is married to Milly. He has worked for Commerzbank as a manager in the Foreign Exchange department. They have a home in Withington near Hereford. The Wiggin family have strong roots in his constituency. Bill's father used to farm near Upton on Severn and Special metals Wiggin Ltd was founded by his great grandfather. Bill's interests include Motorbikes, DIY, and Diving.”


Onid ydy'r Ceidwadwyr wedi dysgu gwers? Onid ydy'n nhw'n deall na fydd hyn yn gwella ei delwedd yng Nghymru? Dyma Sais, sy'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr yn datgan yn gyhoeddus ei fod ef am ddiddymu'r Cynulliad, y pitw o fesur o hunanreolaeth sydd gan y Cymry. Wedi dweud hynny mae'n nodweddiadol o farn unoliaethwr - does rhai pethau byth yn newid.


Byddai'n syniad i mi fynd yn ôl i adolygu ar gyfer fy ail arholiad yn awr, 'Damcaniaethau Gwleidyddol' bore fory, ie bore dydd Sadwrn! Plato, Awstin ac eraill, diddorol iawn.

No comments: