21.1.05

Cristion yn y Tŷ Gwyn!

Dyma fy ail bostiad, mae hi'n dri o'r gloch y prynhawn cyn fy arholiad cyntaf. Wedi gwneud coffi i fi fy hun ac yn cymryd seibiant o'r adolygu am ychydig i edrych ar y newyddion ar wefan y BBC.

Un o'r prif storiâu heddiw ydy seremoni dderbyn Bush am ei ail dymor fel Arlywydd yr Amerig. Mae Bush a'i bolisïau wedi codi gwrychyn sawl Cymro dros y blynyddoedd diwethaf ac fel Cristion mae wedi codi fy ngwrychyn innau fwy fyth oherwydd, ar bapur fod Bush yn dilyn yr un math o Gristnogaeth a mi, y 'born agains' yma! O ganlyniad dwi wedi ffeindio fy hun yn gorfod amddiffyn fy nghred ond ar y llaw arall yn ceisio ymddiheuro, feiddia’u ddweud, am agwedd a pholisïau Bush 'y Cristion'.

Isod mae erthygl fer nesi ysgrifennu yn ystod yr etholiadau Arlywyddol nol yn yr Hydref yn ymateb i phenomenon 'Bush y Cristion'.

* * * *

Cristion yn y Tŷ Gwyn!

Yn ddiweddar dwi wedi darganfod fy hun yn amddiffyn Cristnogaeth oherwydd sylwadau/daliadau mae'r Cristnogion 'Efengylaidd' Adain-dde Americanaidd wedi bod yn eu rhoi dros y cyfryngau. Pinacl hyn wrth gwrs ydy Bush a'r etholiad arlywyddol dros yr wythnosau diwethaf.

Fel mae'r rhai sydd yn fy adnabod yn gwybod nid ydw i yn wrthwynebus o gwbwl i'r Cristion ymroi i wleidyddiaeth, i'r gwrthwyneb - rwy'n credu'n gryf y dylai'r cristion ymroi i weithio dros gyfiawnder ar y ddaear hon yn ogystal ag yng nghalonnau pobl - mae'n ddyletswydd i Gristnogion. Wedi dweud hynny rwyf innau yn gweld fy hun fel person sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth sy'n Gristion yn hytrach na Cristion yng Ngwleidyddiaeth fel Bush.

Beth yw'r gwahaniaeth felly? Os ydy Bush yn gwneud camgymeriadau, pasio polisïau fydd yn digio llawer ayyb... mi fydd pobl yn caledu'n syth yn erbyn ei gred. Dyna sydd yn digwydd yng Nghymru heddiw. Gofynnais i rywun dros y misoedd diwethaf i ddweud beth oedd y 3 peth cyntaf oedd yn dod i'w feddwl pan ddywedais 'Cristion Efengylaidd', y tri pheth oedd...

  1. Rhyfel
  2. Gwrywgydiaeth
  3. Erthylu

Dim son am Y groes, Iesu, edifeirwch na thröedigaeth!

I mi mae'n amlwg mae agenda'r dde-Americanaidd ydy'r 3 pwynt uchod. Fy mhroblem syml i gyda'r 'strand' yma o Gristnogaeth ydy eu culni. Er enghraifft pam codi gymaint o stŵr am Wrywgydiaeth ac Erthylu (dwi' cytuno i raddau a safbwynt Bush ar y materion yma) tra ar y llaw arall yn tynnu allan o gytundeb Kayoto? Yn ysgol Sul dydd Sul fe dynnwyd ein sylw gan Dr Bobi Jones at bwysigrwydd gofalu am y greadigaeth, ei fod yn rhan bwysig ag annatod o foli Duw a'i ogoneddu.

Rhaid cofio mae'r unig ffordd i gael y gymdeithas yn un Gristnogol ydy drwy i bobl gael eu hachub, does dim pwynt cael deddfau lu yn gwahardd priodasau hoyw, erthylu ayyb... os ydy calonnau pobl dal yn oer. Falle fydd y gymdeithas ar yr wyneb yn un Gristnogol os caiff polisïau Bush ei gwireddu OND calonnau pobl sydd angen newid nid cael deddf gwlad yn dweud wrthyn nhw fyw mewn ffordd arbennig, wedi i'r galon newid mi fydd y ffordd o fyw yn newid.

Enghraifft ydy hyn o fy mhryder i SEF fod Bush a'i debyg yn rhoi portread gyfyng iawn o Gristnogaeth i'r cyhoedd. Nid yw'n dangos radicaliaeth y Groes nac ychwaith ehangder yr Efengyl.


2 comments:

cridlyn said...

Er na alla' i gydsynio â thi a Bush o gwbl am wrwgydiaeth ac erthylu (ac rwy' cael fy magu yn mynd i'r Ysgol Sul ac yn dilyn moesau ac egwyddorion Cristnogol), da nodi dy ddadl ynghylch Kyoto, a da dweud fy mod yn cytuno â thi i'r carn. Os mai Duw greodd y byd, rhywbeth rwy'n ei droi a throsi yn fy mhen yn go aml, sut all Bush alw ei hun yn Gristion os yw'n mynd ati i ddinistrio'r anrheg anhygoel hwn mae Duw wedi'i roi i ni?

Rwy'n credu hefyd mai llawer o'r broblem gyda Bush, a Blair yn aml, yw fod ganddynt agwedd ffroenuchel, 'peidiwch poeni, fe sylweddolwch chi mai fi sy'n iawn yn y diwedd', heb wrando ar lais y bobl. Rydw i, ac eraill, yn cysylltu hynny'n aml â'u Cristnogaeth.

Rhys Llwyd said...

Ymddengys ein bod ni wedi canfod peth tir cyffredin oleiaf Geraint.