24.1.05

Gorffen arholiadau ac ail-gydio ym mywyd bob dydd!

Wedi gorffen yr arholiadau! Ddim wedi gwneud fawr ddim byd prynhawn yma heblaw am gadarnhau mae Steffan Cravos fydd prif artist gig NAWS mis Chwefror. Cyffrous iawn.


Heno rwy'n mynd i gyfarfod er mwyn cynllunio cynhadledd Cymdeithas yr Iaith 'Bywyd ar ôl y bwrdd'. Mae'n gyfnod cyffrous yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd ar hyn o bryd gyda'r posibilrwydd o ddiddymu'r bwrdd yn realiti, felly bydd yn ddiddorol gweld sut aiff pethau heno yn y cyfarfod.

No comments: