27.1.05

Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd

Wedi gorffen fy arholiadau byddai rhan fwyaf o bobl yn codi eu cyfraniad i'w blogiau oherwydd bod y gwaith mawr wedi dod i ben. Dyma fy neges gyntaf ers dydd Llun diwrnod fy arholiad olaf, yn ystod fy arholiadau roeddwn yn gadael neges y dydd - rhywbeth o’i le fan yna!


Ers dydd Llun dwi wedi mynychu dau gyfarfod Deddf Iaith. Fel y soniais yn y neges flaenorol mae'n gyfnod cyffrous yn yr ymgyrch, mae'r trefniadau ar gyfer y gynhadledd yn mynd rhagddi a nos Fawrth fe gafwyd cyfarfod lawr yng Nghaerfyrddin i drafod rhan fwy amgen yr ymgyrch - mae'r sticeri i barhau!


Yn gadael am Gaerdydd ben bore fory, cyfarfod Y BYD yng Nghanolfan y Mileniwm nos fory. Wedi bod wrthi ers dau ddiwrnod yn dylunio a gosod sioeau sleidiau ar ei chyfer. Gobeithio yn wir y bydd y cyfarfod yn llwyddiannus a bydd pobl yn llofnodi sieciau!

No comments: