11.2.05

Tymor Newydd

Wedi bod yn brysur yn ddiweddar felly ddim wedi cael cyfle i flogio, ond prynhawn yma mae'n weddol dawel felly dyma achub ar y cyfle i adrodd ychydig o'm hanes diweddar! A gwell i mi eich rhybuddio fy mod wedi canfod, gobeithiaf, sut i bostio lluniau fyny yma - felly yn y negeseuon sydd i ddod tebyg y byddaf yn mynd dros ben llestri gyda lluniau!


Ers fy mhostiad diwethaf rwyf wedi dechrau ar fy nghyrsiau newydd dyma rwy’n ei astudio'r tymor yma:


Arweinyddiaeth Wleidyddol

Y darlithydd ydy'r Athro Michael Foley, mae ei arddull yn wahanol a dweud y lleiaf. Heddiw er enghraifft ni ddywedodd air, ond yn hytrach fe wnaethom ni wylio fideo am Eisenhower am awr! Wythnos diwethaf fe wyliom ni hanner awr o fideo o Hitler yn areithio a cyn hynny gwyliom ni fideo o Blair yn ennill yn 1997. Mae'n amlwg fod Foley yn drwm dan ddylanwad rhaglenni dogfen oherwydd wrth ddarlithio mae'n swnio union fel narrator ar raglen ar y dicovery Channel!


Ysywaeth, digon am Foley. Mae'r cwrs ei hun yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn reit anodd, wedi dweud hynny prin iawn ydy'r darllen dwi wedi gwneud hyd yma! Ni ddewisais y cwrs yn wreiddiol, 'Cyfalafiaeth ac Imperialaeth' oedd fy newis cyntaf ond cafodd y modiwl ei ddiddymu oherwydd gadawodd Jan Selby, y doc oedd i ddysgu'r modiwl. Felly pam dewis y modiwl yma yn lle yr un a ganslwyd? Wel mae'r ateb yn dechrau yn Florence! Mae'r fy adran wedi penodi rhywun newydd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, Anwen Elias. Wedi iddi ddod i'r adran fe gynigiwyd y byddai hi yn cymryd dosbarthiadau Cymraeg i gyd fynd a modiwl Foley. Felly fy awydd i ddysgu peth yn Gymraeg y'm crybwyllwyd i ddewis y modiwl yma yn hytrach na'r awydd i astudio arweinyddiaeth fel y cyfryw.


Etholiadau yng Nghymru a'r DG

Dyma fodiwl arall y dewisais ar y funud olaf oherwydd i'r modiwl a ddewisais yn gyntaf gael ei ddiddymu. Y darlithydd ydy Roger Scully - arwr myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth! Sais a symudodd i Gymru gwta bum mlynedd yn ôl, bellach mae'n gwbl rugl yn y Gymraeg ac eleni wedi dechrau darlithio yn Gymraeg! Dyma'r esiampl orau o'r math o ymroddiad y dylai holl staff prifysgolion Cymru ei roi i'r genedl. Hyd yma mae'n fodiwl difyr iawn ac mae Roger yn ddarlithydd pen i gamp, Anwen sy'n cymryd y seminarau yma yn ogystal.


Athroniaeth Wleidyddol a Moderniaeth

Cyfeirir at y modiwl yma gan y myfyrwyr fel “y modiwl Howard Williams arall”. Mae'r Athro Howard Williams yn dysgu llwyth o gyrsiau ar theori wleidyddol sy'n swnio yn debyg os nad yr un peth, tymor diwethaf fe astudiais “Athroniaeth Wleidyddol”, y tymor yma dwi'n astudio “Athroniaeth Wleidyddol a Moderniaeth”, blwyddyn nesaf fyddai'n astudio “Athroniaeth Wleidyddol yr Ugeinfed Ganrif” yn ogystal mae'n dysgu cyrsiau ar “Theori Glasurol Cysylltiadau Rhyngwladol”! Digon i ddrysu dyn. Serch hynny yn y modiwl yma canolbwyntio ar feddylwyr Marcsaidd y byddwn ni mae'n debyg.


Dwi'n mynd i briodas fory, Bethan, merch ifengaf cymdogion i ni yng Nghomis Coch. Fe brynodd dad grys a thei newydd i fi pwy ddyrnod - hwyl!

No comments: