15.2.05

Gruff Rhys





Fe es i weld Gruff Rhys neithiwr yn theatr y werin. Roedd hi yn noson hollol wych! Prin dwi'n cofio pobl yn dod allan o gig Cymraeg yn gwenu, neithiwr roedd pawb yn gwenu. Y cyntaf ar y llwyfan oedd Alun Tan Lan, mae Alun yn foi anhygoel o dalentog a pe bai i ganu yn Saesneg mi fyddai yn enfawr.


Kerdd Dant oedd yr ail fand cefnogi. MC Mabon gyda'i ffrindiau oedd mewn gwirionedd, Dyl Mei ar y samplers, Seizamwndo yn rapio, Andras o Kenavo ar y piano a grŵp llefaru Pantycelyn yn cyd-adrodd. Roedd yn wahanol ac yn ddiddanus iawn.


Cafwyd pwyllgor gwaith diddorol yn yr Undeb neithiwr - pethau mawr ar droed, fe wnâi ei hadrodd pan fydd gyda mi fwy o amser nes ymlaen heddiw neu fory.

No comments: