20.1.05

Lansio blog Rhys Llwyd

Wel dyma fi yn dechrau blogio. Ychydig ar ei hol hi mae'n debyg gan fod llawer o Gymry eraill wedi bod yn blogio ers misoedd os na blynyddoedd bellach.

Felly beth sydd wedi peri i mi ddechrau blogio? Wel dwi'n meddwl y medrai ei dorri i lawr i dri rheswm.

  • Yr awydd i ysgrifennu mwy, dyma o bosib yw'r prif reswm. Hyd yn oed os wna neb ddarllen y postiadau bydd y blog yn ysbardun i mi ysgrifennu mwy.
  • Mae blogio yn rhyw fath o ffurf fodern o ddyddiadur amwn i. Mae cadw dyddiadur yn draddodiad cryf gyda ni'r Cymry felly dyma gyfrannu a chynnal y traddodiad hwnnw.
  • Ar drydydd rheswm am ddechrau blogio? Wel, mae hi newydd droi naw o'r gloch y nos ac rwyf wedi bod yn adolygu ar gyfer fy arholiadau trwy'r dydd, wedi cael llond bol bellach ac mi oeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol. Ac wrth bori maes-e ces i'r syniad o ddechrau blog.

Nid dim ond fy hynt a helynt fy hun rwyf am adrodd ar y blog, ond fe obeithiaf hefyd roi sylw i bynciau a phethau sy'n agos at fy nghalon.

2 comments:

Nic said...

A chofia, ar flog dy hunan, does neb sy'n gallu golygu dy negeseuon ;-)

cridlyn said...

Croeso, Rhys. Rwy'n edrych 'mlaen at dy sylwadau treiddgar, boed i fi gytuno รข nhw ai peidio (siwr o fod ddim)...