21.2.05

Gwobrau RAP 2005


Nol yn Aberystwyth wedi penwythnos prysur. Fe fues i fyny yng Ngwobrau RAP 2005, ym Mangor. Ar y cyfan roeddwn ni'n cytuno gyda'r enillwyr oni bai am drip peth. Fe ddylai Ashokan (a berfformiodd yn wych ar y noson) wedi ennill rhywbeth ar ôl gweithio mor galed eleni, mwy na thebyg y wobr band byw yr oedden nhw fwyaf haeddiannol ohono. Yn ail, wn i ddim a oedd Anweledig yn haeddu ennill EP y flwyddyn, yn eu herbyn roedd Winabego sydd wedi rhyddhau clap o EP dda a Mattoidz band gweithgar arall; roeddwn ni'n teimlo y dylai'r wobr wedi mynd i un o'r ddau fand yna yn hytrach na'r juganoughts Anweledig!

Yn olaf ni fuaswn i wedi rhoi LP y flwyddyn i Texas Radio Band, mae'r LP yn dda, ac mae TRB yn fand penigamp, ond fel nododd aelodau o'r band eu hunain o'r llwyfan fe ryddhawyd LP's Cymraeg eraill well - doedd dim digon o ganeuon Cymraeg ar LP TRB iddi gyfiawnhau ennill y wobr yn fy nhyb i. Dylai'r wobr fod wedi mynd i Lo-Cut a Sleifar.

Ysywaeth, fe arhosais yn Traveloge Bangor gyda theulu fy nghariad, roedd rhaid i mi a Gwenllïan gocio bach ein bod ni'n iau na 16 er mwyn cael mynd mewn! Wedi brecwast drud echrydus yn Little Chef fe gychwynnon ni nol am Aberystwyth tua hanner dydd. Arhosom ni am brynhawn gyda theulu Gwenllïan ym Mhenrhyndeudraeth, maen ganddyn nhw'r Ci mwyaf gwyllt erioed! Er yn y llun ei fod yn edrych yn ddof iawn.

Diwrnod digon prysur eto heddiw, wedi bod yn rhedeg o gwmpas lle yn gneud petheuach ac yn helpu i baratoi ar gyfer digwyddiad UMCA heno. Mae 'rhywbeth' yn digwydd, dwi ddim am ddweud be am y tro oherwydd dwi'n gwybod fod fy narlithwyr yn darllen fy mlog - os na glywch ar y newyddion fory fe wnâi bostio lluniau ac adrodd y stori fory neu nes ymlaen yn yr wythnos.

No comments: