22.2.05

Meddiannu Huw Owen



Heno fe feddiannom ni (dros 100 o aelodau UMCA) lyfrgell Huw Owen fel rhan o'r ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg. Rydym ni wedi cael tipyn o sylw yn y wasg, roeddem ni ar newyddion 10 BBC 1 (y rhan Gymreig o'r rhaglen hynny yw), ac dy ni wedi bod ar fwletinau Radio Cymru trwy'r nos. Wele isod luniau 'live from the scene' fel petai! Well i mi fynd i gael cwsg nawr – gorymdaith i'r Hen Goleg bore fory!





No comments: