Protest Arall a Tost a The
Fore wedi i feddiannu Huw Owen fe orymdeithiodd UMCA i lawr i'r Hen Goleg ple yr areithiodd Huw Lewis (Cymdeithas yr Iaith), Rhodri Davies (Swyddog ymgyrchoedd yr Undeb) a neb llai na Emyr Llew! Wedi protest reit sidet daeth Heddwas fyny ata i ar y diwedd eisiau gwybod beth oedd enw Emyr Llew, roeddwn nhw am ei arestio! Erbyn hyn roedd Emyr hanner ffordd adref i Ffostrasol! Fe gymeron nhw fy enw i am beidio cydweithredu gyda'r Heddlu - does dim wedi dod o hyn hyd yma.





Nos Fawrth gwnaethom ni Dost a The (yr Undeb Cristnogol). Yn ogystal â'r ymrafael arferol os mae 'Tost a Te' yntau 'Tost a The' sy'n iawn fe welwyd ymaflyd codwn (gweler y lluniau isod) ac fe fwytodd Deiniol ap Dafydd nid llai na thorth gyfan o dost ei hun!
Pobl yn mwynhau eu Tost a The...


Ymaflyd Codwm yn Tost a Te...



Ac yn olaf, Deiniol ap Dafydd ar ei 29ain darn o Dost...

Pnawn ma’ dwi'n paratoi i fynd i Gaerdydd, da ni, Kenavo, yn chwarae yn Abri (gigs CYI yng Nghaerdydd) heno gyda Mattoidz a fory da ni'n recordio sesiwn i Bandit - cŵl iawn!
1 comment:
Diolch!
Post a Comment